Powys Fadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 14: Llinell 14:
* 1359–c.1416 [[Owain Glyndŵr]] (Owain ap Gruffudd), Arglwydd [[Glyndyfrdwy]] a [[Cynllaith|Chynllaith Owain]]
* 1359–c.1416 [[Owain Glyndŵr]] (Owain ap Gruffudd), Arglwydd [[Glyndyfrdwy]] a [[Cynllaith|Chynllaith Owain]]


Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, Maredudd ab Owain Glyndŵr.
Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, [[Maredudd ab Owain Glyndŵr]].


===Cantrefi a chymydau Powys Fadog===
===Cantrefi a chymydau Powys Fadog===

Fersiwn yn ôl 06:49, 3 Mehefin 2008

Powys Fadog neu Powys Maelor oedd y rhan ogleddol o Deyrnas Powys. Yn dilyn marwolaeth tywysog Powys, Madog ap Maredudd, yn 1160, a marwolaeth ei fan Llywelyn ap Madog yn fuan wedyn, rhannwyd y deyrnas. Cafodd nai Madog, Owain Cyfeiliog, y rhan fwyaf o'r de, a gafodd yr enw Powys Wenwynwyn yn nes ymlaen, a chafodd mab Madog, Gruffudd Maelor I y rhan ogleddol. Cafodd y deyrnas yr enw Powys Fadog yn ystod teyrnasiad ei fab, Madog ap Gruffudd Maelor.

Derbyniodd Gruffudd Maelor I gantrefi Maelor ac Iâl fel ei gyfran, ac yn ddiweddarach gallodd ychwanegu Nanheudwy, Cynllaith, Glyndyfrdwy a Mochnant. Pan orchfygwyd Gwynedd gan Edward I yn 1283, ymgorfforwyd Powys Fadog yn Sir Ddinbych a Sir Fflint. Cafodd arglwydd Powys Fadog ar y pryd, Gruffudd Fychan I, gadw rhai o'i diroedd, ond o hyn ymlaen yr oedd y llinach yn arglwyddi megis arglwyddi'r Mers yn hytrach na thywysogion.

Tywysogion ac arglwyddi Powys Fadog

Yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr, collodd y teulu eu tiroedd. Nid oes cofnod o hynt mab Owain, Maredudd ab Owain Glyndŵr.

Cantrefi a chymydau Powys Fadog

Sylwer nad arosodd pob un o'r cantrefi a chymydau hyn yn rhan o Bowys Fadog.