Madog Fychan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arfbais Powys Fadog

Yn ôl rhai o'r achau, roedd Madog Fychan (fl c. 1320) yn fab i Madog Crypl, arglwydd Cynllaith a Glyndyfrdwy ym Powys. Dywedir iddo etifeddu tiroedd ei dad yn 1304.

Mae amheuaeth am hyn; yn ôl fersiynau eraill, etifeddwyd tiroedd Madog Crypl gan ei fab Gruffudd ap Madog Crypl: cofnodir priodas Gruffudd yn chwech oed yn 1304, ac ymddengys mai Gruffudd oedd tad Gruffudd Fychan II, tad Owain Glyn Dŵr.