Brech wen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B clean up, replaced: 20fed ganrif → 20g, 18fed ganrif → 18g (2) using AWB |
|||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Haint a achosir gan ddau [[feirws]], ''Variola major'' a ''Variola minor'', yw'r '''frech wen''' (Saesneg: ''Smallpox''). ''Variola major'' sy'n achosi'r math mwyaf difrifol, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan ''Variola minor'' yn marw.<ref name=Sherris>{{cite book | author = Ryan KJ, Ray CG (editors) | title = Sherris Medical Microbiology | edition = 4th | pages = 525–8 | publisher = McGraw Hill | year = 2004 |isbn = 0-8385-8529-9 }}</ref> |
Haint a achosir gan ddau [[feirws]], ''Variola major'' a ''Variola minor'', yw'r '''frech wen''' (Saesneg: ''Smallpox''). ''Variola major'' sy'n achosi'r math mwyaf difrifol, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan ''Variola minor'' yn marw.<ref name=Sherris>{{cite book | author = Ryan KJ, Ray CG (editors) | title = Sherris Medical Microbiology | edition = 4th | pages = 525–8 | publisher = McGraw Hill | year = 2004 |isbn = 0-8385-8529-9 }}</ref> |
||
Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y [[18g]], credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd ei effaith yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant yn marw.<ref name=Barquet>{{cite journal |author=Barquet N, Domingo P |title=Smallpox: the triumph over the most terrible of the ministers of death |url= http://www.annals.org/cgi/content/full/127/8_Part_1/635|journal=Ann. Intern. Med. |volume=127 |issue=8 Pt 1 |pages=635–42 |date=15 October 1997}}</ref> Erbyn yr [[20g]] roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr |
Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y [[18g]], credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd ei effaith yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant yn marw.<ref name=Barquet>{{cite journal |author=Barquet N, Domingo P |title=Smallpox: the triumph over the most terrible of the ministers of death |url= http://www.annals.org/cgi/content/full/127/8_Part_1/635|journal=Ann. Intern. Med. |volume=127 |issue=8 Pt 1 |pages=635–42 |date=15 October 1997}}</ref> Erbyn yr [[20g]] roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr 20g. Ym 1979, cyhoeddodd yr WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma. |
||
== America == |
== America == |
Fersiwn yn ôl 16:03, 17 Awst 2017
Haint a achosir gan ddau feirws, Variola major a Variola minor, yw'r frech wen (Saesneg: Smallpox). Variola major sy'n achosi'r math mwyaf difrifol, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan Variola minor yn marw.[1]
Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y 18g, credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd ei effaith yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant yn marw.[2] Erbyn yr 20g roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr 20g. Ym 1979, cyhoeddodd yr WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma.
America
Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir America. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewtopeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r Inca a'r Aztec. Fel rheol cael ei drosglwyddo'n anfwriadol yr oedd, ond credir i'r Prydeinwyr ei ledu'n fwriadol ymhlith llwythau brodorol oedd mewn cynghrair a'r Ffrancwyr yng Ngogledd America yn nghanol y 18g, trwy roi blancedi pobl oedd wedi marw o'r frech wen iddynt.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Ryan KJ, Ray CG (editors) (2004). Sherris Medical Microbiology (arg. 4th). McGraw Hill. tt. 525–8. ISBN 0-8385-8529-9.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- ↑ Barquet N, Domingo P (15 October 1997). "Smallpox: the triumph over the most terrible of the ministers of death". Ann. Intern. Med. 127 (8 Pt 1): 635–42. http://www.annals.org/cgi/content/full/127/8_Part_1/635.