Vladimir Lenin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
B →Llyfryddiaeth: clean up |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
*''Детская болезнь "левизны" в коммунизме'' (1920) |
*''Детская болезнь "левизны" в коммунизме'' (1920) |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
{{DEFAULTSORT:Lenin, Vladimir}} |
{{DEFAULTSORT:Lenin, Vladimir}} |
||
Llinell 56: | Llinell 54: | ||
[[Categori:Pobl o Oblast Ulyanovsk]] |
[[Categori:Pobl o Oblast Ulyanovsk]] |
||
[[Categori:Sofietiaid]] |
[[Categori:Sofietiaid]] |
||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 08:14, 13 Mawrth 2017
Vladimir Lenin | |
| |
Cadeirydd y Cyngor Comisâr Pobl Yr Undeb Sofietaidd
| |
Cyfnod yn y swydd 30 Rhagfyr 1922 – 21 Ionawr 1924 | |
Olynydd | Alexei Rykov |
---|---|
Cadeirydd y Cyngor Comisâr Pobl y GSSF Rwsiaidd
| |
Cyfnod yn y swydd 8 Tachwedd 1917 – 21 Ionawr 1924 | |
Olynydd | Alexei Rykov |
Geni | 22 Ebrill 1870 Simbirsk, Ymerodraeth Rwsia |
Marw | 21 Ionawr 1924 Gorki, Yr Undeb Sofietaidd |
Plaid wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Chwyldroadwr Rwsiaidd, arweinydd Chwyldro Hydref a Chadeirydd Cyngor Comisariaid y Bobl o 1917 tan 1924 oedd Vladimir Ilyich Lenin (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Ле́нин), enw iawn Vladimir Ilyich Ul'yanov (Rwsieg Влади́мир Ильи́ч Улья́нов) (10 / 22 Ebrill 1870 - 21 Ionawr 1924). Sefydlodd y Blaid Bolsiefic gan ei harwain at fuddugoliaeth yn chwyldroau Rwsia. Ystyrir yn un o ffigyrau pwysicaf datblygiad Sosialyddiaeth wyddonol ynghŷd â Karl Marx a Friedrich Engels. Ysgrifennodd nifer fawr o weithiau gwleidyddol ac athronyddol.
Bywyd cynnar
Ganwyd Vladimir Ilyich Ulyanov ar 22 Ebrill 1870 yn Simbirsk. Roedd ei dad, Ilya Nikolaevich Ulyanov, yn athro mathemateg a ffiseg ac yn arolygydd ysgolion. Roedd ei deulu yn gymysg o ran cefndir ethnig: ei dad yn Kalmyk, ei fam o dras Almaenig, ac aelodau eraill y teulu yn Iddewon, yn Chuvashiaid, yn Rwsiaid ac yn Swediaid. Roedd teulu ei fam, Mariya Aleksandrovna Blank, yn hanu o Lübeck yn yr Almaen yn wreiddiol. Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam yn Iddew a oedd wedi troi at Gristnogaeth Uniongred. Dienyddiwyd brawd hŷn Lenin, Aleksandr, yn 1887 oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn i lofruddio Tsar Alexander III. Effeithiodd hyn yn fawr ar Lenin, a daeth yn fwy radicalaidd yn ei olygon gwleidyddol. Yn yr un flwyddyn fe'i diarddelwyd o Brifysgol Kazan am gymryd rhan mewn protestiadau myfyrwyr ac ar ôl i'r heddlu ddarganfod y cysylltiad rhyngddo â'i frawd. Dychwelodd i'r brifysgol ym 1891 i gwplhau gradd yn y gyfraith.
Treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth wleidyddol ym mhentref Shushenskoye, ger Minusinsk yn Siberia, o 1897 hyd 1900.
Llyfryddiaeth
- Что делать? (1902)
- Шаг вперёд, два шага назад (1904)
- Материализм и эмпириокритицизм (1909)
- Y wladwriaeth a'r chwyldro (1917)
- Imperialaeth, Cyfnod uchaf Cyfalafiaeth (1917)
- Детская болезнь "левизны" в коммунизме (1920)