Francisco Goya: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 21: Llinell 21:


{{Rheoli awdurdod}}
{{Rheoli awdurdod}}





{{DEFAULTSORT:Goya, Francisco}}
{{DEFAULTSORT:Goya, Francisco}}

Fersiwn yn ôl 07:11, 13 Mawrth 2017

Hunanbortread gan Goya

Arlunydd o Sbaen oedd Francisco José de Goya y Lucientes (30 Mawrth, 174616 Ebrill, 1828). Ystyrir ef fel yr olaf o'r Hen Feistri, ond hefyd yn ffigwr allweddol yn natblygiad arlunwaith fodern, gan ddylanwadu ar arlunwyr fel Manet a Picasso.

Ganed Goya yn Fuendetodos, Sbaen, yn Nheyrnas Aragón yn 1746. Symudodd y teulu i Zaragoza yn ddiweddarach, ac addysgwyd ef yno. Daeth yn brentis i'r arlunydd José Luján pan oedd yn 14 oed. Yn ddiweddarach, symudodd i ddinas Madrid lle astudiodd dan Anton Raphael Mengs, ond ffraeodd ag ef a methodd gael mynediad i'r Academi Frenhinol.

Teithiodd i Rufain ac yna dychwelodd i Zaragoza. Astudiodd dan Francisco Bayeu y Subías, a phriododd Josefa, chwaer Bayeu, yn 1774. Dechreuodd ennill sylw fel arlunydd ac ennill comisiynau. Erbyn y 1790au roedd yn ffefryn y teulu brenhinol, ond wedi iddo ddioddef twymyn yn 1792, aeth yn fyddar. Treuliodd bum mlynedd yn adfer ei iechyd, gan ddarllen llawer am y Chwyldro Ffrengig. Cyhoeddodd gasgliad o luniau dan y teitl Caprichos yn 1799.

Pan feddiannwyd Sbaen gan Ffrainc gan ddechrau rhyfel 1808–1814, dechreuodd Goya weithio ar gyfres o brintiau Trychinebau rhyfel (Los desastres de la guerra). Bu farw Josefa yn 1812. Symudodd i Bordeaux a Paris yn 1824, gan ddychwelyd i Sbaen yn 1826 ac yna mynd i Bordeaux eto, lle bu farw yn 1828 yn 82 oed.

La Maja Desnuda, ca. 1800.
La Maja Vestida, ca. 1803.
Y Colossus, 1810.