Brwydr Pwll Melyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu a del |
|||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Brwydr a ymladdwyd ar neu o gwmpas [[5 Mai]] [[1405]] yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]] oedd '''Brwydr Pwll Melyn'''. |
Brwydr a ymladdwyd ar neu o gwmpas [[5 Mai]] [[1405]] yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]] oedd '''Brwydr Pwll Melyn'''. |
||
Ymladdwyd y frwydr ger bryn Pwll Melyn, gerllaw [[Brynbuga]] yn [[Sir Fynwy]] |
Ymladdwyd y frwydr ger bryn Pwll Melyn, gerllaw [[Brynbuga]] yn [[Sir Fynwy]]. Arweiniwyd y fyddin Gymreig gan un o 11 o feibion Owain, [[Gruffudd ab Owain Glyndŵr]], a byddin Seisnig dan yr Arglwydd Grey o Codnor. Gorchfygwyd y Cymry, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor i Monkswood ac oddi yno i [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]] ble y bu farw 6 mlynedd yn ddiweddarach. Lladdwyd hefyd brawd Owain, [[Tudur ap Gruffudd]], John ap Hywel, abad [[Abaty Llantarnam|Llantarnam]] a mil a hanner o filwyr Cymreig; bu hyn yn gnoc enfawr i ymgyrch y Cymru dros eu hannibyniaeth. Ildiodd 300 o ddynion i Grey, ond dienyddiwyd y rhan fwyaf ohonynt am eu trafferth, o flaen y castell.<ref>[http://www.deremilitari.org/resources/sources/usk.htm Battles and Campaigns from The Chronicle of Adam of Usk]</ref> |
||
[[Delwedd:Usk Castle (3375712).jpg|bawd|chwith|Castell Brynbuga, ble dienyddiwyd nifer o'r 300 o Gymru a ildiodd wedi'r frwydr.]] |
|||
Ymladdwyd y frwydr, yn ôl yr hanesydd [[J. E. Lloyd]]<ref>J.E.Lloyd, ''The Battle of Pwll Melyn'', in ''Archaeologia Cambrensis'', 88 (1933), tud.347-8</ref> a sgwennai yn 1933, ar y tir i'r gogledd o Gastell Brynbuga: ar dir "Fferm y Castell" a ''Castle Oak Pond'' sef y 'Pwll Melyn' a roddodd ei enw i'r frwydr.<ref>J.E.Lloyd, ''The Battle of Pwll Melyn'', yn ''Archaeologia Cambrensis'', 88 (1933), tud.347-8</ref> Nododd Lloyd, hefyd, y darganuwyd nifer o ysgerbydau yn y pwll pan gafodd ei lanhau. Roedd dŵr y llyn yn frown-budur am flynyddoedd, efallai oherwydd y cyrff, a hyn a roddodd iddo'r enw 'Melyn', gair yr oes i ddisgrifio'r lliw. Bellach mae'r pwll wedi lleihau oherwydd gwaith draenio. I'r gorllewin o'r pwll y safodd y fyddin Gymreig gan ymosod ar ochr ogleddol y castell. |
|||
==Cyfeiriadau== |
|||
{{cyfeiriadau}} |
|||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 07:04, 12 Mai 2016
Brwydr a ymladdwyd ar neu o gwmpas 5 Mai 1405 yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr oedd Brwydr Pwll Melyn.
Ymladdwyd y frwydr ger bryn Pwll Melyn, gerllaw Brynbuga yn Sir Fynwy. Arweiniwyd y fyddin Gymreig gan un o 11 o feibion Owain, Gruffudd ab Owain Glyndŵr, a byddin Seisnig dan yr Arglwydd Grey o Codnor. Gorchfygwyd y Cymry, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor i Monkswood ac oddi yno i Dŵr Llundain ble y bu farw 6 mlynedd yn ddiweddarach. Lladdwyd hefyd brawd Owain, Tudur ap Gruffudd, John ap Hywel, abad Llantarnam a mil a hanner o filwyr Cymreig; bu hyn yn gnoc enfawr i ymgyrch y Cymru dros eu hannibyniaeth. Ildiodd 300 o ddynion i Grey, ond dienyddiwyd y rhan fwyaf ohonynt am eu trafferth, o flaen y castell.[1]
Ymladdwyd y frwydr, yn ôl yr hanesydd J. E. Lloyd[2] a sgwennai yn 1933, ar y tir i'r gogledd o Gastell Brynbuga: ar dir "Fferm y Castell" a Castle Oak Pond sef y 'Pwll Melyn' a roddodd ei enw i'r frwydr.[3] Nododd Lloyd, hefyd, y darganuwyd nifer o ysgerbydau yn y pwll pan gafodd ei lanhau. Roedd dŵr y llyn yn frown-budur am flynyddoedd, efallai oherwydd y cyrff, a hyn a roddodd iddo'r enw 'Melyn', gair yr oes i ddisgrifio'r lliw. Bellach mae'r pwll wedi lleihau oherwydd gwaith draenio. I'r gorllewin o'r pwll y safodd y fyddin Gymreig gan ymosod ar ochr ogleddol y castell.
Cyfeiriadau
- ↑ Battles and Campaigns from The Chronicle of Adam of Usk
- ↑ J.E.Lloyd, The Battle of Pwll Melyn, in Archaeologia Cambrensis, 88 (1933), tud.347-8
- ↑ J.E.Lloyd, The Battle of Pwll Melyn, yn Archaeologia Cambrensis, 88 (1933), tud.347-8
Llyfryddiaeth
- J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, Clarendon Press, 1931)