Abaty Llantarnam
| Math | abaty, plasty, lleiandy |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llanfihangel Llantarnam |
| Sir | Llanfihangel Llantarnam |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 31 metr |
| Cyfesurynnau | 51.6308°N 2.99611°W |
![]() | |
| Perchnogaeth | teulu Morgan |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Abaty Sistersaidd ger Llanfihangel Llantarnam yn Nhorfaen yw Abaty Llantarnam. Sefydlwyd yr abaty yn 1179 gan fynachod o Abaty Ystrad Fflur dan nawdd Hywel ap Iorwerth, arglwydd Caerllion. Efallai mai yng Nghaerllion y sefydlwyd y fynachlog gyntaf, ond cofnodir ei bod yn Llantarnam erbyn y 13g.

Hanes
[golygu | golygu cod]Codwyd yr abaty yn Nant Teyrnon, enw sydd efallai'n gysyltiedig â chymeriad Teyrnon Twrf Fliant, arglwydd Gwent Is Coed yn y chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, y gyntaf o'r Pedair Cainc.
Roedd yr abad John ap Hywel yn un o brif gefnogwyr Owain Glyn Dŵr; lladdwyd ef ym Mrwydr Pwllmelyn yn 1405. Diddymwyd y fynachlog yn 1536; cofnodwyd yr adeg honno fod yno chwe mynach ac incwm blynyddol o £71.
Yn y 1830au, trowyd yr abaty yn blasdy, ac mae'n awr yn gartref i Chwiorydd Sant Joseff. Credir fod y bwâu yn Eglwys Llanfihangel Llantarnam wedi dod o'r abaty.
