Rhyfeloedd y Rhosynnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
Cyfeiriadaeth |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Lancashire rose.svg|bawd|200px|Rhosyn Swydd Gaerhirfryn]] |
[[Delwedd:Lancashire rose.svg|bawd|200px|Rhosyn Swydd Gaerhirfryn]] |
||
[[Delwedd:Yorkshire rose.svg|bawd|200px|Rhosyn Swydd Efrog]] |
[[Delwedd:Yorkshire rose.svg|bawd|200px|Rhosyn Swydd Efrog]] |
||
Roedd '''Rhyfeloedd y Rhosynnau''' ('''Rhyfel y Rhos''', yn ôl yr hanesydd John Davies<ref>''Hanes Cymru''; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)</ref> yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o dros 30 mlynedd ([[1455]] i [[1485]]) rhwng cefnogwyr Teulu'r [[Lancastriaid]]) a Theulu'r [[Iorciaid]]). Fe'i gelwir "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod y [[rhosyn]] coch yn cynrychioli Lancaster a'r rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd [[Coron Lloegr]]. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt. Er y gelwir y cyfnod hwn yn 'Rhyfeloedd y Rhosynnau, ychydig o ymladd a fu mewn gwirionedd - tua 13 wythnos i gyd gyda chyfanswm o 12 brwydr. |

Llinell 28: | Llinell 27: | ||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
*[[Rheinallt ap Gruffudd]], amddiffynwr Harlech a'r Wyddgrug |
*[[Rheinallt ap Gruffudd]], amddiffynwr Harlech a'r Wyddgrug |
||
==Cyfeiriadau== |
|||
{{cyfeiriadau}} |
|||
{{comin|Category:Wars of the Roses|Rhyfeloedd y Rhosynnau}} |
{{comin|Category:Wars of the Roses|Rhyfeloedd y Rhosynnau}} |
||
[[Categori:Rhyfeloedd y Rhosynnau| ]] |
[[Categori:Rhyfeloedd y Rhosynnau| ]] |
Fersiwn yn ôl 09:13, 16 Ionawr 2016
Roedd Rhyfeloedd y Rhosynnau (Rhyfel y Rhos, yn ôl yr hanesydd John Davies[1] yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o dros 30 mlynedd (1455 i 1485) rhwng cefnogwyr Teulu'r Lancastriaid) a Theulu'r Iorciaid). Fe'i gelwir "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod y rhosyn coch yn cynrychioli Lancaster a'r rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd Coron Lloegr. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt. Er y gelwir y cyfnod hwn yn 'Rhyfeloedd y Rhosynnau, ychydig o ymladd a fu mewn gwirionedd - tua 13 wythnos i gyd gyda chyfanswm o 12 brwydr.
Yn ôl John Davies, y pwysicaf o'r brwydrau a ymladdwyd oedd Brwydr Wakefield (1460) lle lladdwyd dug York, Brwydr Mortimer's Cross (1461) (brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry, mewn gwirionedd) gan i'w fab ddyrchafu ei hun yn Edward IV, Brwydr Banbury (1469) a arweiniodd at ailorseddu Harri VI a Brwydr Tewkesbury (1471) oedd yn allweddol i ailorseddu Edward IV, ac wrth gwrs Brwydr Bosworth.
Uchafbwynt y rhyfeloedd hyn oedd buddugoliaeth Harri Tudur (a ddaeth yn Harri VII) ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri y brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan agor cyfnod y Tuduriaid.
Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru
Er na fu brwydrau o bwys yng Nghymru, yr oedd Cymru'n ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau Iarll Penfro, Siaspar Tudur dros y Lancastriaid a William Herbert dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr Rhys ap Thomas ran bwysig mewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn brwydr Bosworth. Tueddai'r rhan fwyaf o'r Cymry i ochri â phlaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid, ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Roedd Guto'r Glyn er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid. Ym Mrwydr Mortimer's Cross yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd Owain Tudur. Bu farw Tywysog Cymru, Edward o San Steffan, ym Mrwydr Tewkesbury ar 4 Mai 1471.
Brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry oedd Brwydr Mortimer's Cross (1461), ac roedd treuan milwyr Harri yn Gymry yn ôl John Davies.[2] Galwodd y bardd Lewis Glyn Cothi frwydr Banbury yn 'drychineb cenedlaethol' gan i gymaint o Gymry farw ynddi.
Brwydrau Pwysig y Rhyfeloedd y Rhosynnau
- Prif: Rhestr brwydrau Cymru
- Brwydr Sant Alban (1455)
- Brwydr Wakefield (1460)
- Brwydr Mortimer's Cross (1461)
- Brwydr Towton (1461)
- Brwydr Banbury (1469)
- Brwydr Barnet (1471)
- Brwydr Tewkesbury (1471)
- Brwydr Bosworth (1485)
- Brwydr Stoke (1487)
Gweler hefyd
- Rheinallt ap Gruffudd, amddiffynwr Harlech a'r Wyddgrug