Rhyfeloedd y Rhosynnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Rhestr brwydrau Cymru |
→Brwydrau Pwysig y Rhyfeloedd y Rhosynnau: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
*[[Brwydr Mortimer's Cross]] ([[1461]]) |
*[[Brwydr Mortimer's Cross]] ([[1461]]) |
||
*[[Brwydr Towton]] (1461) |
*[[Brwydr Towton]] (1461) |
||
*[[Brwydr Barnet]] ([[1471]]) |
*[[Brwydr Barnet]] ([[1471]]) |
||
*[[Brwydr Tewkesbury]] (1471) |
*[[Brwydr Tewkesbury]] (1471) |
||
*[[Brwydr Bosworth]] ([[1485]]) |
*[[Brwydr Bosworth]] ([[1485]]) |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
{{commons|Category:Wars of the Roses}} |
{{commons|Category:Wars of the Roses}} |
||
{{eginyn hanes}} |
{{eginyn hanes}} |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
{{Cyswllt erthygl ddethol|es}} |
{{Cyswllt erthygl ddethol|es}} |
||
Llinell 32: | Llinell 28: | ||
{{Cyswllt erthygl ddethol|no}} |
{{Cyswllt erthygl ddethol|no}} |
||
{{Cyswllt erthygl ddethol|sv}} |
{{Cyswllt erthygl ddethol|sv}} |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[af:Rose-oorlog]] |
[[af:Rose-oorlog]] |
Fersiwn yn ôl 18:50, 7 Mawrth 2013
Roedd Rhyfeloedd y Rhosynnau yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o 1455 i 1485 rhwng cefnogwyr Teulu'r Lancastriaid) a Theulu'r Iorciaid). Fe'i gelwir "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod y rhosyn coch yn cynrychioli Lancaster a'r rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd Coron Lloegr. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt.
Uchafbwynt y rhyfeloedd oedd buddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri y brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan agor cyfnod y Tuduriaid.
Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru
Er na fu brwydrau o bwys yng Nghymru, yr oedd Cymru'n ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau Iarll Penfro, Siaspar Tudur dros y Lancastriaid a William Herbert dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr Rhys ap Thomas ran bwysig mewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn brwydr Bosworth. Tueddai'r rhan fwyaf o'r Cymry i ochri â phlaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid, ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Roedd Guto'r Glyn er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid. Ym Mrwydr Mortimer's Cross yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd Owain Tudur. Bu farw Tywysog Cymru, Edward o San Steffan, ym Mrwydr Tewkesbury ar 4 Mai 1471.
Brwydrau Pwysig y Rhyfeloedd y Rhosynnau
- Prif: Rhestr brwydrau Cymru
- Brwydr Wakefield (1460)
- Brwydr Mortimer's Cross (1461)
- Brwydr Towton (1461)
- Brwydr Barnet (1471)
- Brwydr Tewkesbury (1471)
- Brwydr Bosworth (1485)
- Brwydr Stoke (1487)
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol