Fedora Barbieri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 3: Llinell 3:


== Cefndir ==
== Cefndir ==
Ganwyd Barbieri yn [[Trieste]], Yr Eidal yn blentyn i Rafaele Barbieri a Ida (née Bolelli) <ref>"Rio de Janeiro Brazil, Immigration Cards, 1900-1965". FamilySearch, Salt Lake City, Utah, 2013</ref>, roedd ei rhieni yn cadw siop. <ref name="NewMusic">[https://www.allmusic.com/artist/fedora-barbieri-mn0001719219/biography New Music - Fedora Barbieri Artist Biography by Erik Eriksson] adalwyd 1 Mai 2019</ref>
Ganwyd Barbieri yn [[Trieste]], Yr Eidal yn blentyn i Rafaele Barbieri a Ida (née Bolelli) <ref>"Rio de Janeiro Brazil, Immigration Cards, 1900-1965". FamilySearch, Salt Lake City, Utah, 2013</ref>, roedd ei rhieni yn cadw siop.<ref name="NewMusic">[https://www.allmusic.com/artist/fedora-barbieri-mn0001719219/biography New Music - Fedora Barbieri Artist Biography by Erik Eriksson] adalwyd 1 Mai 2019</ref>


== Addysg gerddorol ==
== Addysg gerddorol ==
Dechreuodd Barbieri astudio cerddoriaeth yn ffurfiol pan oedd yn ddeunaw. Wrth weithio yn siop ei rhieni, roedd yn aml yn canu i basio'r amser. Un diwrnod, clywodd cwsmer gwybodus hi a mynnodd ei bod yn dechrau gwersi llais. Am ddwy flynedd, bu'n gweithio gyda Federico Bugamelli yn ei dinas enedigol, ac yna derbyniodd naw mis o astudio gyda Luigi Toffolo. Ar gyfer astudiaeth uwch, symudodd i [[Fflorens]] lle daeth yn ddisgybl i'r soprano ddramatig enwog Giulia Tess. <ref name="NewMusic" />[
Dechreuodd Barbieri astudio cerddoriaeth yn ffurfiol pan oedd yn ddeunaw. Wrth weithio yn siop ei rhieni, roedd yn aml yn canu i basio'r amser. Un diwrnod, clywodd cwsmer gwybodus hi a mynnodd ei bod yn dechrau gwersi llais. Am ddwy flynedd, bu'n gweithio gyda Federico Bugamelli yn ei dinas enedigol, ac yna derbyniodd naw mis o astudio gyda Luigi Toffolo. Ar gyfer astudiaeth uwch, symudodd i [[Fflorens]] lle daeth yn ddisgybl i'r soprano ddramatig enwog Giulia Tess.<ref name="NewMusic" />[


== Gyrfa ==
== Gyrfa ==
Llinell 19: Llinell 19:
Er ei bod yn cael ei hystyried yn actor a chantores aruthrol yn ei rhinwedd ei hun, yn gyffredinol, mae hi bellach yn cael ei chofio'n bennaf am ei phartneriaethau rheolaidd â [[Maria Callas]] ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan yn ystod y 1950au. Recordiwyd llawer o'u cydweithrediadau gan Fonit Cetra ac EMI.
Er ei bod yn cael ei hystyried yn actor a chantores aruthrol yn ei rhinwedd ei hun, yn gyffredinol, mae hi bellach yn cael ei chofio'n bennaf am ei phartneriaethau rheolaidd â [[Maria Callas]] ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan yn ystod y 1950au. Recordiwyd llawer o'u cydweithrediadau gan Fonit Cetra ac EMI.


Roedd ei phortreadau enwocaf yn cynnwys Amneris yn ''[[Aida]]'', gyda Jussi Björling, Azucena yn ''[[Il trovatore]]'', Quickly yn ''Falstaff'', Eboli yn ''Don Carlos'', a Ulrica yn ''[[Un ballo in maschera]]''. Cyhoeddwyd ei pherfformiad 1951 o'r offeren dros y meirw gan Verdi, gyda Herva Nelli, [[Giuseppe Di Stefano|Giuseppe di Stefano]] a Cesare Siepi, o dan arweiniad [[Arturo Toscanini]], gan RCA. <ref>[http://www.oxfordmusiconline.com/grovemusic/view/10.1093/gmo/9781561592630.001.0001/omo-9781561592630-e-0000002005 Shawe-Taylor, D., & Blyth, A. (2009, May 15). Barbieri, Fedora. Grove Music Online] adalwyd30 Ebrill. 2019</ref>
Roedd ei phortreadau enwocaf yn cynnwys Amneris yn ''[[Aida]]'', gyda Jussi Björling, Azucena yn ''[[Il trovatore]]'', Quickly yn ''Falstaff'', Eboli yn ''Don Carlos'', a Ulrica yn ''[[Un ballo in maschera]]''. Cyhoeddwyd ei pherfformiad 1951 o'r offeren dros y meirw gan Verdi, gyda Herva Nelli, [[Giuseppe Di Stefano|Giuseppe di Stefano]] a Cesare Siepi, o dan arweiniad [[Arturo Toscanini]], gan RCA.<ref>[http://www.oxfordmusiconline.com/grovemusic/view/10.1093/gmo/9781561592630.001.0001/omo-9781561592630-e-0000002005 Shawe-Taylor, D., & Blyth, A. (2009, May 15). Barbieri, Fedora. Grove Music Online] adalwyd30 Ebrill. 2019</ref>


Gellir gweld a chlywed Barbieri mewn sawl opera a gyhoeddwyd ar [[DVD]], e.e. yn rôl Madelon yn ''Andrea Chénier'', gyda [[Plácido Domingo]] yn serennu ac yn cael ei arwain gan Nello Santi. Hefyd fel Giovanna yn ''[[Rigoletto]]'' a gyfarwyddwyd gan Jean-Pierre Ponnelle, gyda [[Luciano Pavarotti]] dan arweiniad Riccardo Chailly. Fel Mamma Lucia yn ''Cavalleria rusticana'' Franco Zeffirelli, eto gyda Domingo a dan arweiniad Georges Prêtre (recordiodd y tri fideo mewn oedran aeddfed iawn). Ym 1996, canodd a siaradodd yn ffilm Jan Fanmid-Garre, ''Opera Fanatic''
Gellir gweld a chlywed Barbieri mewn sawl opera a gyhoeddwyd ar [[DVD]], e.e. yn rôl Madelon yn ''Andrea Chénier'', gyda [[Plácido Domingo]] yn serennu ac yn cael ei arwain gan Nello Santi. Hefyd fel Giovanna yn ''[[Rigoletto]]'' a gyfarwyddwyd gan Jean-Pierre Ponnelle, gyda [[Luciano Pavarotti]] dan arweiniad Riccardo Chailly. Fel Mamma Lucia yn ''Cavalleria rusticana'' Franco Zeffirelli, eto gyda Domingo a dan arweiniad Georges Prêtre (recordiodd y tri fideo mewn oedran aeddfed iawn). Ym 1996, canodd a siaradodd yn ffilm Jan Fanmid-Garre, ''Opera Fanatic''
Llinell 27: Llinell 27:


== Marwolaeth ==
== Marwolaeth ==
Bu farw yn Fflorens yn 82 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion yn Cimitero Sant'Anna, Trieste. <ref>[https://www.findagrave.com/memorial/7248954/fedora-barbieri Find a grave -.Fedora Barbieri] adalwyd 1 Mai 20119</ref>
Bu farw yn Fflorens yn 82 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion yn Cimitero Sant'Anna, Trieste.<ref>[https://www.findagrave.com/memorial/7248954/fedora-barbieri Find a grave -.Fedora Barbieri] adalwyd 1 Mai 20119</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


{{DEFAULTSORT:Barbieri, Fedora}}
{{Rheoli awdurdod}}
{{Rheoli awdurdod}}


{{DEFAULTSORT:Barbieri, Fedora}}
[[Categori:Genedigaethau 1920]]
[[Categori:Genedigaethau 1920]]
[[Categori:Marwolaethau 2003]]
[[Categori:Marwolaethau 2003]]

Fersiwn yn ôl 06:38, 24 Chwefror 2021

Fedora Barbieri
Fedora Barbieri yn Aida
Ganwyd4 Mehefin 1920 Edit this on Wikidata
Trieste Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2003 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laiscontralto, mezzo-soprano Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Fedora Barbieri (4 Mehefin, 19204 Mawrth, 2003) yn gantores opera Eidalaidd gyda llais mezzo-soprano.

Cefndir

Ganwyd Barbieri yn Trieste, Yr Eidal yn blentyn i Rafaele Barbieri a Ida (née Bolelli) [1], roedd ei rhieni yn cadw siop.[2]

Addysg gerddorol

Dechreuodd Barbieri astudio cerddoriaeth yn ffurfiol pan oedd yn ddeunaw. Wrth weithio yn siop ei rhieni, roedd yn aml yn canu i basio'r amser. Un diwrnod, clywodd cwsmer gwybodus hi a mynnodd ei bod yn dechrau gwersi llais. Am ddwy flynedd, bu'n gweithio gyda Federico Bugamelli yn ei dinas enedigol, ac yna derbyniodd naw mis o astudio gyda Luigi Toffolo. Ar gyfer astudiaeth uwch, symudodd i Fflorens lle daeth yn ddisgybl i'r soprano ddramatig enwog Giulia Tess.[2][

Gyrfa

Rhoddodd ei pherfformiad cyntaf fel cantores broffesiynol yn Fflorens ym 1940. Rhoddodd gorau berfformio am gyfnod wedi ei phriodas ym 1943. Daeth yn ôl i'r llwyfan ym 1945. Roedd yn un o'r perfformwyr cyntaf i berfformio mewn operâu cynnar gan Monteverdi a Pergolesi. Daeth ei pherfformiad cyntaf yn y Teatro alla Scala, lle'r oedd i gael ei llwyddiannau mwyaf, ym 1942, gyda pherfformiad o 9fed Symffoni Ludwig van Beethoven, a arweiniwyd gan Victor de Sabata.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan Opera ar 6 Tachwedd 1950, yn rôl y Dywysoges Eboli yn Don Carlos gan Verdi. Yn gyfan gwbl, rhoddodd 96 o berfformiadau o 11 o operâu yn y tŷ hwnnw. Canodd rhan Eboli hefyd yng nghynhyrchiad enwog Luchino Visconti ar gyfer canmlwyddiant y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, ym 1958.[3]

Ym 1956, ffilmiodd y fezzo-soprano Mistress Quickly, yn Falstaff, ar gyfer RAI, dan arweiniad Tullio Serafin a'i gyfarwyddo gan Herbert Graf, gyda Giuseppe Taddei a Scipio Colombo.

Er nad wnaeth hi erioed ymddeol yn swyddogol, rhoddodd gorau i berfformio'n fyw yn y 1990au, gan wneud ei gyrfa yn un o'r hiraf yn hanes opera. Canodd y tro diwethaf ar y llwyfan yn 2000 (Mamma Lucia yn Cavalleria Rusticana).

Er ei bod yn cael ei hystyried yn actor a chantores aruthrol yn ei rhinwedd ei hun, yn gyffredinol, mae hi bellach yn cael ei chofio'n bennaf am ei phartneriaethau rheolaidd â Maria Callas ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan yn ystod y 1950au. Recordiwyd llawer o'u cydweithrediadau gan Fonit Cetra ac EMI.

Roedd ei phortreadau enwocaf yn cynnwys Amneris yn Aida, gyda Jussi Björling, Azucena yn Il trovatore, Quickly yn Falstaff, Eboli yn Don Carlos, a Ulrica yn Un ballo in maschera. Cyhoeddwyd ei pherfformiad 1951 o'r offeren dros y meirw gan Verdi, gyda Herva Nelli, Giuseppe di Stefano a Cesare Siepi, o dan arweiniad Arturo Toscanini, gan RCA.[4]

Gellir gweld a chlywed Barbieri mewn sawl opera a gyhoeddwyd ar DVD, e.e. yn rôl Madelon yn Andrea Chénier, gyda Plácido Domingo yn serennu ac yn cael ei arwain gan Nello Santi. Hefyd fel Giovanna yn Rigoletto a gyfarwyddwyd gan Jean-Pierre Ponnelle, gyda Luciano Pavarotti dan arweiniad Riccardo Chailly. Fel Mamma Lucia yn Cavalleria rusticana Franco Zeffirelli, eto gyda Domingo a dan arweiniad Georges Prêtre (recordiodd y tri fideo mewn oedran aeddfed iawn). Ym 1996, canodd a siaradodd yn ffilm Jan Fanmid-Garre, Opera Fanatic

Teulu

Priododd Luigi Barlozzetti ym 1943 (bu ef farw ym1986) cawsant dau fab [5]

Marwolaeth

Bu farw yn Fflorens yn 82 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion yn Cimitero Sant'Anna, Trieste.[6]

Cyfeiriadau

  1. "Rio de Janeiro Brazil, Immigration Cards, 1900-1965". FamilySearch, Salt Lake City, Utah, 2013
  2. 2.0 2.1 New Music - Fedora Barbieri Artist Biography by Erik Eriksson adalwyd 1 Mai 2019
  3. The Guardian 9 Mawrth 2003 Obituaries Fedora Barbieri adalwyd 1 Mai 2019
  4. Shawe-Taylor, D., & Blyth, A. (2009, May 15). Barbieri, Fedora. Grove Music Online adalwyd30 Ebrill. 2019
  5. The Independent 15 Mawrth 2003 Obituaries Fedora Barbieri adalwyd 1 Mai 2019
  6. Find a grave -.Fedora Barbieri adalwyd 1 Mai 20119