Albert Spicer
Albert Spicer | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mawrth 1847 Brixton |
Bu farw | 20 Rhagfyr 1934 Bayswater, Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | James Spicer |
Mam | Louisa Edwards |
Priod | Jessie Stewart Dykes |
Plant | Grace Dykes Spicer, Marion Dykes Spicer, Bertha Dykes Spicer, Janet Dykes Spicer, Gwendolen Elaine Dykes Spicer, Ursula Dykes Spicer, Sir Dykes Spicer, 2nd Bt., Sir Stewart Dykes Spicer, 3rd Bt., Lancelot Spicer, Eva Dykes Spicer, Olga Dykes Spicer |
Roedd Syr Albert Spicer, Barwnig 1af (16 Mawrth, 1847 - 20 Rhagfyr, 1934) yn farsiandwr papur[1] ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy a Chanol Hackney
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Spicer yn Brixton, Llundain yn fab i James Spicer, farsiandwr papur cefnog a Louisa, merch Evan Edwards. Roedd ei frawd, James, yn hen daid i'r gwleidydd Llafur Harriet Harman.
Cafodd ei addysgu yn Mill Hill School wedyn aeth i Heidelberg lle dysgodd siarad yr Almaeneg yn rhugl.
Ym 1879 Priododd Jessie Stewart Dykes (1857-1934); bu iddynt tri mab ag wyth merch.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn fuan ar ôl i Spicer dychwelyd i Wledydd Prydain ym 1864 bu farw ei daid, John Edward Spicer, gan adael ei fusnes siop llyfrau yn 182 New Bridge Street, Llundain, i'w meibion. Bu anghydfod rhwng y brodyr fodd bynnag, gan hynny dechreuodd tad Spicer cwmni masnach papur ar ei liwt ei hun, sef James Spicer & Sons, yn 50 Upper Thames Street, Llundain. Parhaodd dau ewythr Spicer gyda'r busnes gwreiddiol yn New Bridge Street gan fasnachu fel Spicer Bros. Aeth Spicer i weithio gyda'i dad[3].
O gwmni bychan yn cyflogi dim ond wyth gweithiwr ym 1865 tyfodd James Spicer and sons i fod yn un o gwmnïau papur mwya'r byd[4] gyda changhennau yn Llundain, Birmingham, Manceinion, Leeds, Glasgow, Bryste, Melbourne, a Durban, a swyddfeydd yn Belffast, Lerpwl, Caeredin, Sydney, Brisbane, Adelaide, Perth, Wellington (Seland Newydd), Cape Town, a Pharis. Ym 1922 unodd cwmni James Spicer & Sons a chwmni Spicer Brothers i greu cwmni Spicer Ltd; bu Albert Spicer yn gadeirydd y cwmni newydd am flwyddyn cyn penderfynu ymneilltuo o fyd busnes ym 1923.
Roedd Albert Spicer yn ffigwr sylweddol yn y gymuned fusnes yn Llundain. Ef oedd llywydd Siambr Fasnach Llundain o 1907-1910 ac ym 1909 ymwelodd â Sydney fel llywydd Siambrau Masnach yr Ymerodraeth. Am ddeng mlynedd, o 1907 hyd 1917, eisteddodd ar Bwyllgor Ymgynghorol Cudd-wybodaeth Fasnachol y Bwrdd Masnach[5]. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn aelod o'r comisiwn brenhinol ar gyflenwadau papur.[2]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol bu Spicer yn ffigwr amlwg yn y Blaid Ryddfrydol. Roedd yn un o sylfaenwyr ac yn is lywydd y London and Counties Liberal Union ac yn un o ymddiriedolwyr y National Liberal Club . Erbyn 1888 roedd wedi gwasanaethu ym mron pob swydd gysylltiedig â'i blaid yn Essex.
Safodd yn aflwyddiannus fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Walthamstow yn etholiad 1886. Safodd yn etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy yn etholiad 1892 gan gipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr[6]. Llwyddodd i dal ei afael ar y sedd yn etholiad 1895[7], ond collodd y sedd i'r ymgeisydd Ceidwadol Dr Frederick Rutherfoord Harris; heriwyd etholiad Harris ar y sail ei fod wedi cyhoeddi anwireddau enllibus am Spicer yn ystod yr ymgyrch, ei fod wedi twyllo yn ei ddatganiadau o gostau etholiad a'i bod wedi cyhoeddi deunydd etholiadol anghyfreithiol[8]; llwyddodd y ddeiseb yn erbyn Harris, cafodd ei ddiarddel o'i sedd a gorchymynnwyd ail gynnal yr etholiad. Safodd Spicer yn yr isetholiad ond colli bu ei hanes eto.
Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Canol Hackney ym 1906[9] gan gadw ei sedd hyd 1918 pan benderfynodd ymneilltuo o'r Senedd.
Cafodd ei greu yn farwnig ym 1906[10] fel cydnabyddiaeth o'i waith cyhoeddus, ac fe wnaed yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1912.
Enwad yr Annibynwyr
[golygu | golygu cod]Ar wahân i'w buddiannau busnes a'i waith gwleidyddol roedd Spicer yn aelod dylanwadol a gweithgar o enwad Cristionogol yr Annibynwyr[11]. Cafodd ei ethol yn aelod o bwyllgor Undeb Annibynwyr Essex, ac yna, ym 1873, i fwrdd Cymdeithas Genhadol Llundain, gan wasanaethu fel ei gadeirydd o 1882 ac fel trysorydd o 1885 i 1910. Chwaraeodd ran allweddol yn yr ymdrechion i adeilad Coleg Mansfield, Rhydychen[12], coleg diwinyddol i'r Annibynwyr, bu yn drysorydd y coleg o 1888 hyd 1921. Ym 1892 etholwyd Spicer fel ail gadeirydd lleyg Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru[13] ac ym 1899 fe'i etholwyd yn llywydd Cyngor Rhyngwladol yr Annibynwyr a gynhaliwyd yn Boston. Rhwng 1919 a 1920 bu'n gadeirydd comisiwn y lleygwyr ar gyflogau gweinidogion. Daeth yn is-lywydd y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor ym 1896, llywydd Undeb yr Ysgolion Sul ym 1900, ac am saith mlynedd bu'n gwasanaethu ar bwyllgor ymgynghorol Cyngor y Fyddin ar les ysbrydol a moesol y fyddin.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw ar 20 Rhagfyr 1934 yn ei gartref, 24 Palace Court, Bayswater, Llundain, bu ei wraig farw ychydig o'i flaen ym mis Mai 1934. Amlosgwyd ei gorff yn amlosgfa Golders Green.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ALBERT SPICER AS - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-05-06. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ 2.0 2.1 David J. Jeremy, ‘Spicer, Sir Albert, first baronet (1847–1934)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 [1] adalwyd 2 Rhag 2015
- ↑ "Monmouth Boroughs Election Petition - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-04-01. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "BIOGRAPHICAL SKETCH - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1888-10-06. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "SIR ALBERT SPICER MP - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-12-17. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "YR ETHOLIAD YN NGHYMRU - Y Celt". H. Evans. 1892-07-22. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "CYMRU WEDI'R FRWYDR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1895-07-31. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "PETITION AGAINST DR HARRIS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-11-30. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "MR SPICER AS A LONDON MP - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-02-22. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "BIRTHDAY HONOURS - The Cambrian". T. Jenkins. 1906-07-06. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "Mr Albert Spicer YH a Deddf Addysg 1902 - Y Celt". H. Evans. 1904-12-30. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "OPENING OF MANSFIELD COLLEGE OXFORD - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1889-10-19. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "MR ALBERT SPICER AND THE CONGREGATIONAL CHURCH - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-05-13. Cyrchwyd 2015-12-02.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr George Elliot, Barwnig 1af |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy 1892 – 1900 |
Olynydd: Frederick Rutherfoord Harris |