Syr George Elliot, Barwnig 1af
Syr George Elliot, Barwnig 1af | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mawrth 1814 Gateshead |
Bu farw | 23 Rhagfyr 1893 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | person busnes, gwleidydd, peiriannydd mwngloddiol |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Plant | Syr George Elliot, 2il Farwnig, Thomas Thompson Elliot, Ralph Elliot |
Roedd Syr George Elliot, Barwnig 1af (18 Mawrth 1814 – 23 Rhagfyr 1893), yn ddiwydiannwr a gwleidydd Ceidwadol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy.[1][2]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Elliot yn Gateshead yn fab i Ralph Elliot, glöwr, ac Elizabeth, merch Henry Braithwait, ei wraig.
Priododd Margaret Green o Rainton, Swydd Durham ym 1836 a bu iddynt ddau fab a phedair merch; bu Margaret farw ym 1880. Ym 1890 cafodd ei erlyn am iawndal o £5000 gan gantores o'r enw Emily Mary Hairs am dorri addewid i'w phriodi; ni fu'r achos yn llwyddiannus.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym 1823 pan oedd tua 9 mlwydd oed aeth Elliot i weithio dan ddaear ym mhwll glo Pensher, pwll a oedd yn eiddo i Ardalydd Londonderry; bu'n weithgar yn undeb glowyr y pwll gan arwain streic ffyrnig ym 1831. Pan oedd tua 18 mlwydd oed cafodd ei brentisio i gwmni syrfewyr Thomas Sopwith a oedd yn ymwneud a'r gorchwyl o dirfesur ar gyfer adeiladu rheilffyrdd newydd yn Swydd Efrog a Fforest y Ddena. Ymhen chwech mis ddychwelodd i Whitefield gan ddod yn oruchwyliwr. Ym 1837 fe'i dyrchafwyd yn is-reolwr glofa Monkswearmouth, Sunderland, pwll dyfnaf Lloegr ar y pryd, ac yna'n rheolwr ym 1839.[4]
Ym 1840 prynodd Elliot traean o bwll glo Washington ac ym 1843 prynodd pwll glo Unsworth ar ei liwt ei hun. Ym 1851 fe'i penodwyd yn brif beiriannydd mwyngloddiau Ardalydd Londonderry, wrth barhau i ehangu ei fusnesau ei hun. Yn ystod y ddau ddegawd nesaf daeth Elliot yn un o ddiwydianwyr pwysicaf Prydain. Yn y 1860au prynodd mwyngloddiau ym maesydd glo gogledd Cymru, gogledd a de Swydd Stafford, ac yn Nova Scotia. Un o'i buddsoddiadau mwyaf arwyddocaol oedd yng nghwmni Powell Duffryn Steam Coal, lle'r oedd yn rheolwr cyffredinol yn ogystal â'r cyfranddaliwr mwyaf. Ym 1849 prynodd Elliot busnes gwneud rhaff gwifren Kuper & Co. cyfunodd y cwmni gyda chwmni Gutta Percha i ffurfio The Telegraph Construction and Maintenance Company, y cwmni fu'n gyfrifol am osod y wifren telegraff tanddwr gyntaf i gysylltu Ewrop a'r America ym 1866.[5]
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Etholwyd Elliot i'r Senedd am y tro cyntaf ym 1868 fel Aelod Seneddol etholaeth lofaol Gogledd Swydd Durham, ond methodd i ddal ei afael ar y sedd yn Etholiad Cyffredinol 1874 gan golli i'r Ryddfrydwr Isaac Lowthian Bell. Codwyd deiseb lwyddiannus yn erbyn canlyniad yr etholiad ar sail bod cefnogwyr y Rhyddfrydwyr wedi ymddwyn yn fygythiol a threisgar tuag at gefnogwyr y Ceidwadwyr a gorchymynnwyd ail redeg yr ornest; yn yr etholiad newydd fe lwyddodd Elliot i adfer ei sedd [6]. Collodd i'r Rhyddfrydwyr eto yn Etholiad Cyffredinol 1880, ond bu farw'r Aelod Seneddol llwyddiannus, John Joicey ym mis Awst 1881 a llwyddodd Elliot i gipio'i sedd yn ôl yn yr isetholiad dilynol. Diddymwyd etholaeth Gogledd Swydd Durham ar gyfer Etholiad cyffredinol 1885 a safodd Elliot yn etholaeth newydd De Orllewin Durham gan fethu cael ei ethol. Safodd yn etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy yn Etholiad Cyffredinol 1886 gan gipio'r sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr collodd i'r Rhyddfrydwyr drachefn yn Etholiad Cyffredinol 1892.
Cafodd ei greu'n farwnig ym 1874 i gydnabod ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus a diwydiant.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref yn Portland Place, Llundain yn 79 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Houghton Hillside. Fe'i olwynwyd yn y farwnigaeth gan ei ail fab George William Elliot.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Colin Griffin, ‘Elliot, Sir George, first baronet (1814–1893)’, rev. Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 [1] accessed 2 Dec 2015
- ↑ Y Bywgraffiadur arlein, ELLIOT , Syr GEORGE (1815 - 1893), [2] adalwyd 2 Rhag 2015
- ↑ "SIR GEORGE ELLIOT MP - South Wales Echo". Jones & Son. 1890-04-18. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "CAREER OF A NOTABLE NORTH COUNTRYMAN - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-12-30. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "DEATH OF SIR GEORGE ELLIOT - The Aberdare Times". Josiah Thomas Jones. 1893-12-30. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ Bath Chronicle and Weekly Gazette 25 Mehefin 1874 T5 Notes of the Week
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edward Hamer Carbutt |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy 1886 – 1892 |
Olynydd: Albert Spicer |