Edward Hamer Carbutt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Syr Edward Hamer Carbutt Bt, AS
Edward Hamer Carbutt

Syr Edward Hamer Carbutt


Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Cyfnod yn y swydd
1880 – 1886
Rhagflaenydd Thomas Cordes
Olynydd Syr George Elliot

Geni 22 Gorffennaf, 1838
Leeds
Marw 8 Hydref, 1905
Cranleigh
Plaid wleidyddol Rhyddfrydol
Priod Mary Rhodes
Galwedigaeth Peiriannydd

Roedd Syr Edward Hamer Carbutt, Barwnig 1af (22 Gorffennaf, 1838 - 8 Hydref, 1905) yn beiriannydd mecanyddol a wasanaethodd fel llywydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistrefi Sir Fynwy.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Syr Edward yn fab ieuengaf Francis Carbutt (1792-1874), masnachwr lliain a brethyn o Chapel Allerton ger Leeds. Priododd Mary Rhodes ym 1874 [1]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 16 mlwydd oed aeth yn brentis i gwmni the Midland Railway Company yn Derby lle arhosodd am bedwar blynedd cyn symud i waith llongau yn Jarrow i ddarfod ei hyfforddiant, gan ddychwelyd i Derby ym 1860 fel fforman i'r cwmni rheilffordd.

Yn bedwar ar hugain oed aeth i mewn i bartneriaeth gyda Robinson Thwaits yng ngwaith haearn y Vulcan yn Bradford, cwmni ac oedd enw da iddi am gynhyrchu peiriannau a ddefnyddid i drin haearn a dur gan arbenigo mewn morthwylion mawr a yrrid gan ager. Parodd ei gysylltiad â'r cwmni hyd 1871 pan ymddeolodd fel rheolwr yn 41 mlwydd oed[2]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe fu yn aelod o gyngor Leeds o 1876 gan wasanaethu fel Maer y dref ym 1878.

Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Mynwy yn etholiad cyffredinol 1880 gan gipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr. [3] Ei brif ddiddordeb fel seneddwr oedd newid y ffordd yr oedd Prydain yn cynhyrchu arfau gan sicrhau bod peirianwyr proffesiynol yn y sector breifat yn chware mwy o ran yn y diwydiant cynhyrchu arfau. Collodd y sedd i'r Ceidwadwyr yn etholiad 1896. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Surry ym 1896.[4]

Ym 1887 etholwyd Carbutt yn Llywydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, cynrychiolodd y Sefydliad ar bwyllgor y Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Roedd hefyd yn is-lywydd y Sefydliad Haearn a Dur. Ym 1891 bu yn ymwneud ag ymgais aflwyddiannus i godi dŵr yn Wembley i gystadlu a Thŵr Eiffel ym Mharis.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Cranleigh, Surrey 8 Hydref, 1905, yn 66 mlwydd oed bu farw y farwniaeth efo fo.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Dissolution Honours - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-08-19. Cyrchwyd 2020-07-23.
  2. Grace's Guide to Industrial History Edward Hamer Carbutt [1] adalwyd 13 Mawrth 2015
  3. "Parliamentary History of Monmouth - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-10-07. Cyrchwyd 2020-07-23.
  4. "Sir Edward Carbutt Dead - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-10-09. Cyrchwyd 2020-07-23.
  5. "DEATH OF A BARONETt - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1905-10-14. Cyrchwyd 2020-07-23.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Cordes
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy
18801886
Olynydd:
Syr George Elliot