Thomas Cordes

Oddi ar Wicipedia
Thomas Cordes
Ganwyd5 Mai 1826 Edit this on Wikidata
New Cross Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 1901 Edit this on Wikidata
Sunninghill Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diwydiannwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Hysbyseb Etholiad 1885

Roedd Thomas Cordes (5 Mai, 1826 - 16 Awst, 1901) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy rhwng 1874 a 1880.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Thomas Cordes yn New Cross, Surrey yn fab i James Jamieson Cordes a Mary née Lucas, ei wraig. Roedd J J Cordes yn berchennog a gwaith gwneud hoelion y Dos yng Nghasnewydd, a oedd, ar un adeg, y gwaith hoelion mwyaf yn y byd.[1]. Ar farwolaeth ei dad ym 1867 daeth Thomas yn berchennog a chyfarwyddwr y cwmni.

Ym 1884 priododd a Margaret Agnes Milne (1853 - 1940); yr oedd hi'n ferch hynaf yr Uchel Llyngesydd Syr Alexander Milne.[2] Bu iddynt un ferch.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Yn etholiad cyffredinol 1874 safodd dros y Blaid Geidwadol yn etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy gan lwyddo cipio'r sedd gan y Blaid Ryddfrydol gyda mwyafrif mawr. Yn yr etholiad canlynol a gynhaliwyd ym 1880 collodd y sedd i'r Rhyddfrydwr Edward Hamer Carbut. Safodd eto yn etholiad 1885 ond bu'n aflwyddiannus. Wedi cael ei ymwrthod gan etholwyr Mynwy am yr ail dro penderfynodd ymadael a'r sir gan ymsefydlu yn Berkshire

Bu yn Ynad Heddwch ar Fainc Casnewydd am nifer o flynyddoedd ac ar fainc Berkshire o 1885 hyd ei farwolaeth. Gwasanaethodd fel Siryf Sir Fynwy ym 1871.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Silwood Park, Sunninghill, Berkshire yn 75 mlwydd oed.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. South Wales Argus Gwent's Forgotten Past [1] adalwyd 16 Awst 2015
  2. "MARRIAGE OF MR THOMAS CORDES - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1884-08-22. Cyrchwyd 2015-08-16.
  3. "MR THOMAS CORDES DEAD - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-08-17. Cyrchwyd 2015-08-16.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr John Ramsden
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy
1874 - 1880
Olynydd:
Edward Carbutt