Alaria esculenta

Oddi ar Wicipedia
Llywethau'r môr
Dosbarthiad gwyddonol
Parth: Eukaryota
Teyrnas: Plantae
Ffylwm: Gyrista
Teulu: Alariaceae
Genws: Alaria
Rhywogaeth: A. esculenta
Enw deuenwol
Alaria esculenta
(Linnaeus) Greville

Mae llywethau'r môr (enw gwyddonol: Alaria esculenta) yn wymon bwytadwy ac fe'i adnabyddir yn Saesneg fel dabberlocks, badderlocks, winged kelp, a weithiau Atlantic Wakame. Mae'n fwyd traddodiadol ar hyd arfordir pellenig gogleddol Cefnfor yr Iwerydd. Gellir ei fwyta'n amrwd neu wedi ei goginio o'r Ynys Las, i Wlad yr Iâ, yr Alban ac Iwerddon. Hwn yw'r unig rywogaeth o Alaria allan o ddeuddeg sydd yn tyfu o amgylch Iwerddon a Phrydain Fawr.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Yn tyfu i uchafswm hyd o 2 m, mae'r ffrond cyfan yn frown ac yn cynnwys asen ganol amlwg gyda lamina pilennog tonnog hyd at 7 cm o led bob ochr. Mae'r ffrond yn ddi-ganghennog [1] ac yn meinhau tua'r diwedd. Mae gan y gwaelod goes (stipe) fer sy'n deillio o afaeliad gwreiddflewog. Gall y goes gynnwys sawl sporoffyl sydd ar ffurf clwb a hyd at 20 cm o hyd a 5 cm o led sy'n cario'r sborau .

Mae'n tyfu o goes (stipe) silindrog fer sydd wedi'i gysylltu â'r creigiau gan ddaliad o risoidau canghennog tebyg i wreiddiau ac mae'n tyfu i tua 20. cm o hyd. Mae'r goes hon yn parhau i mewn i'r ffrond gan ffurfio asen ganol hir amlwg, Mae'r holl algâu brown mawr a di-ganghennau eraill sydd i'w cael o amgylch Ynysoedd Prydain heb asen ganol. Mae'r llafn (lamina) yn denau, yn bilennog gydag ymyl tonnog. [2]

Atgynhyrchu[golygu | golygu cod]

Mae sporangia yn tyfu mewn tyfiant deiliog cul siâp clwb a gynhyrchir ger y gwaelod gan dyfu o'r coesyn. Mae'r rhain yn tyfu i 20 cm o hyd a 5 cm o led. [1] [3]

Dosbarthiad ac ecoleg[golygu | golygu cod]

Mae llywethau'r môr yn adnabyddus yn Iwerddon, lle mae'n cael ei adnabod fel Láir neu Láracha, ac fel Mircean yng Ngaeleg yr Alban ac yng ngweddill Ynysoedd Prydain [4] ac eithrio de a dwyrain Lloegr . Mae'n luosflwydd. [5]

Mae'n algâu mawr cyffredin ar lannau lle mae amlygiad tonnau difrifol [6] ynghlwm wrth greigiau ychydig o dan ddyfrnod isel yn y "Llain Laminaria", ac mae'n gyffredin ar lannau creigiog mewn mannau agored. [7] [8] Mae ganddo gyfradd twf cynhenid eithaf uchel o'i gymharu ag algâu eraill, sef oddeutu 5.5% y dydd a chynhwysedd cludo o tua 2 kg pwysau gwlyb fesul metr sgwâr. Gall gyrraedd hyd o tua 2.5 m. Mae'n gorgyffwrdd i raddau bach (+) o ran dosbarthiad â Fucus serratus ac ychydig yn fwy â Laminaria digitata (brŵal neu fôr-wiail yn y Gymraeg). Mae ganddo werthoedd cyfyngu golau isel ac uchel o tua 5 a 70 W y metr sgwâr yn y drefn honno. Mae ei ddosbarthiad hefyd wedi'i gyfyngu gan halltedd, amlygiad tonnau, tymheredd, disiccation a straen cyffredinol. Crynhoir y rhain, a nodweddion eraill yr algâu yn Lewis (1964) a Seip 1980. [9] [10] [11]

Mae sporoffylau tebyg i ddeilen yn datblygu o'r goes ac yn cynhyrchu sŵsborau . [2]

Gall A. esculenta gynhyrchu fflorotanninau a lipidau ocsidiedig fel swyddogaethau amddiffynnol yn erbyn pelydriadau ffotosynthetig actif uchel ac UV. [12]

Mae'n gartref i'r ffwng pathogenig Phycomelaina laminariae . [13]

Dosbarthiad byd[golygu | golygu cod]

Ewrop : Ffrainc yr Iwerydd, Ynysoedd y Sianel, Prydain, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Heligoland, Baltig, Gwlad yr Iâ, Faroes, Norwy a Svalbard ; Gogledd America : Efrog Newydd, Lloegr Newydd, Taleithiau Morwrol, Newfoundland, Quebec, Labrador, Alaska, Canada Arctig a'r Ynys Las ; Asia : Japan, Korea, Kuriles, Sakhalin a Kamchatka . [4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Dickinson, C.I. (1963). British Seaweeds. The Kew Series. Eyre & Spottiswoode
  2. 2.0 2.1 Newton, L. (1931). Handbook of the British Seaweeds. British Museum (Natural History), London.
  3. Bunker, F. StP. D., Maggs, C.A., Brodie, J.A., Bunker, A.R. 2017 Seaweeds of Britain and Ireland. Second Edition, Wild Nature Press, Plymouth, UK ISBN 978-0-9955673-3-7
  4. 4.0 4.1 Alaria esculenta (Linnaeus) Greville, AlgaeBase
  5. Fritsch, F.E. (1945). The Structure and Reproduction of the Algae. Vol. 2. Cambridge University Press, Cambridge.
  6. G. Hardy; M.D.Guiry (2003). "A Check-list and Atlas of the Seaweeds of Britain and Ireland" (PDF). British Phycological Society. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-02-01. Cyrchwyd 2024-03-03. ISBN 0-9527115-1-6
  7. Lewis, J.R. (1964). The Ecology of Rocky Shores. The English Universities Press Ltd.
  8. Phillips, R. 1987. Seashells and Seaweeds. Elm Tree Books, London. ISBN 0-241-12028-4
  9. J. R. Lewis (1964). The Ecology of Rocky Shores. English Universities Press, London.
  10. Seip,K.L.1980. A mathematical model of competition and colonization in a community of marine benthic algae. Ecological modelling 10:77-104
  11. Seip, K.L. Mathematical models of rocky shore ecosystems. In Jørgensen, SE and Mitch, WJ (Eds) Application of ecological modelling in environmental management, Part B, Chap 13, pp 341-433
  12. Phlorotannin Production and Lipid Oxidation as a Potential Protective Function Against High Photosynthetically Active and UV Radiation in Gametophytes of Alaria esculenta (Alariales, Phaeophyceae). Franciska S. Steinhoff, Martin Graeve, Krzysztof Bartoszek, Kai Bischof and Christian Wiencke, Photochemistry and Photobiology, January/February 2012, Volume 88, Issue 1, pages 46–57, doi:10.1111/j.1751-1097.2011.01004.x
  13. Helgi Hallgrímsson & Guðríður Gyða Eyjólfsdóttir (2004). Íslenskt sveppatal I - smásveppir [Checklist of Icelandic Fungi I - Microfungi. Fjölrit Náttúrufræðistofnunar. Náttúrufræðistofnun Íslands [Icelandic Institute of Natural History]. ISSN 1027-832X