Afon Dwyryd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 26 metr |
Cyfesurynnau | 52.9756°N 3.945°W |
Aber | Môr Iwerddon |
Llednentydd | Cwm Cynfal |
Afon yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Dwyryd. Mae'n llifo i'r môr gerllaw Porthmadog.
Cwrs
[golygu | golygu cod]Mae Afon Dwyryd yn tarddu i'r gogledd o Ffestiniog, lle mae nentydd oddi ar lethrau'r Moelwyn Mawr yn llifo i Lyn Tanygrisiau ac yna'n llifo o'r llyn fel Afon Goedol (yr enw lleol ar y rhan hon o'r afon). Mae Afon Bowydd yn ymuno â hi ac yna islaw Rhyd y Sarn Afon Cynfal. Ychydig yn ddiweddarch mae Afon Tafarn-Helyg yn ymuno â hi. Gerllaw Maentwrog mae Afon Prysor yn llifo i mewn iddi.
Yn fuan wedyn mae'r aber yn dechrau. Mae'n mynd heibio i Bortmeirion ac yn fuan ar ôl hynny mae ffrwd fechan Afon y Glyn ac Afon Eisingrug yn ymuno. Gerllaw y môr mae'r aber yn ymuno ag aber Afon Glaslyn ac yn ymagor i Fae Ceredigion.
Hanes
[golygu | golygu cod]- Newid cwrs 1816
Er fod afon Ddwyryd a’i llednentydd yn symyd yn ôl a blaen ar dywod y Traeth Bach, rhwng Talsarnau i'r de a Phenrhyndeudraeth i'r gogledd, nid oedd yn mynd ond rhyw ychydig yma ac acw. Ond ar noswyl Nadolig 1816 (dyma’r “Flwyddyn heb Haf” gyda llaw, a anfarwolwyd gan Gwallter Mechain, a ddilynodd ffrwydriad enwog llosgfynydd Tambora yn Ebrill 1815 ac a barodd i’r tywydd fod yn ansefydlog am beth amser wedyn) fe fu symudiad mawr anesboniadwy yng nghwrs yr afon yn y fan hon. Mae ynys fechan gron ar ganol y traeth a thŷ annedd arni o’r enw “Ynys Gifftan”. Cyn 1816 yr oedd yr afon yn rhedeg i’r môr yr ochr agosaf i Dalsarnau i’r ynys ond un noswaith (yn ôl cofnod manwl mewn hen Feibl teuluaidd ym meddiant teulu lleol) bu llif mawr, ac yn ddirybudd, fe drodd yr afon i ochr Minffordd i’r ynys gan ei ynysu o gyfeiriad cartref y perchennog. Ar yr ochr yma yn ôl pob golwg y mae wedi llifo am dros ganrif a hanner heb argoel ei bod am droi yn ôl i’r hen wely.
Roedd hen forwr duwiol o’r enw Capten John Roberts wedi adeiladu tŷ ar y graig ar fin y morfa, i’r ochr hon o’r afon yn agos i Aber-ia. Enw’r tŷ oedd “Sandy Mount”. Mae hyd yn oed ei adfeilion wedi mynd erbyn heddiw, y cerrig, mae’n debyg wedi mynd i adeiladu rhannau o Borthmeirion. Ar y noson ganwyd ei ferch y cymerodd yr afon y llam dieithr yma. Dyma sut y cofnodwyd yr achlysur ar dudalen yr hen Feibl: Jane, the daughter of John Roberts of Sandy Mount born December 24 1816, Saturday. The same night the channel came to the Northward Ynys Gifftan to our sorrow[1]