Aderyn drycin du

Oddi ar Wicipedia
Aderyn drycin du
Puffinus griseus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Procellariformes
Teulu: Pedrynnod
Genws: Ardenna[*]
Rhywogaeth: Ardenna grisea
Enw deuenwol
Ardenna grisea



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Aderyn drycin du (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar drycin duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Puffinus griseus; yr enw Saesneg arno yw Sooty shearwater. Mae'n perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Procellariidae) sydd yn urdd y Procellariformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. griseus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Ewrop, Affrica ac Awstralia.

Mae tua 40–51 cm o hyd a 94–19 cm ar draws yr adenydd. Nid yw'n hollol ddu o ran lliw, ond mae'n dywyllach na'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau eraill o aderyn-drycin. Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhan ddeheuol y Cefnfor Tawel, yn arbennig o gwmpas Seland Newydd, Ynysoedd y Falkland a Tierra del Fuego. Wedi gorffen magu'r cywion, mae'r adar yn symud tua'r gogledd, ar hyd ochr orllewinol y Cefnfor Tawel a Chefnfor Iwerydd. Wedi cyrraedd cyn belled a'r Arctig, maent yn troi tua'r dwyrain ac yna tua'r de, gan ddychwelyd i'r ynysoedd lle maent yn nythu wedi gwneud cylchdaith enfawr.

Gellir gweld ambell un oddi ar arfordir Cynru yn yr hydref, er nad yw'n aderyn cyffredin yma.

Fe'i ceir yn aml ar lan y môr.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r aderyn drycin du yn perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Procellariidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Pedryn Cynffon-fforchog Oceanodroma leucorhoa
Pedryn drycin Madeira Oceanodroma castro
Pedryn drycin Matsudaira Oceanodroma matsudairae
Pedryn drycin Tristram Oceanodroma tristrami
Pedryn drycin cynffonfforchog Oceanodroma furcata
Pedryn drycin du Oceanodroma melania
Pedryn drycin lludlwyd Oceanodroma homochroa
Pedryn drycin torchog Oceanodroma hornbyi
Pedryn drycin torddu Fregetta tropica
Pedryn drycin torwyn Fregetta grallaria
Pedryn drycin tywyll Oceanodroma markhami
Pedryn drycin y Galapagos Oceanodroma tethys
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Aderyn drycin du gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.