Pedryn drycin Leach
| Pedryn drycin Leach Oceanodroma leucorhoa | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Procellariformes |
| Teulu: | Hydrobatidae |
| Genws: | Hydrobates[*] |
| Rhywogaeth: | Hydrobates leucorhous |
| Enw deuenwol | |
| Hydrobates leucorhous | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pedryn drycin Leach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pedrynnod drycin Leach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Oceanodroma leucorhoa; yr enw Saesneg arno yw Leach's storm petrel. Mae'n perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Hydrobatidae) sydd yn urdd y Procellariformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn O. leucorhoa, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Ewrop, Affrica ac Awstralia.
Fe'i gwelir ar arfordir Cymru hefyd. Fe'i ceir yn aml ar lan y môr.
Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhannau gogleddol Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel, fel rheol gannoedd neu filoedd o adar gyda'i gilydd. Ceir y nifer fwyaf yn nythu ar Ynys Baccalieu yn nwyrain Canada, lle mae tua 3 miliwn o barau. Mae'n nythu mewn tyllau yn y ddaear neu agen mewn craig, ac yn dodwy un ŵy yn unig.
Dim ond yn y nos y mae'n dod at y nyth, er mwyn osgoi gwylanod ac adar ysglyfaethus. Mae'n aderyn ychydig yn fwy na'r Pedryn drycin, ac mae'r fforch yn y gynffon yn gymorth i'w wahaniaethu oddi wrth y rhywogaeth yma.
Nid yw'n nythu o gwmpas arfordir Cymru, ond gellir gweld cryn nifer yn yr hydref oddi ar yr arfordir gogleddol ambell flwyddyn, pan mae'r adar yn symud tua'r de.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r pedryn drycin Leach yn perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Hydrobatidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Pedryn Cynffon-fforchog | Hydrobates leucorhous | |
| Pedryn drycin | Hydrobates pelagicus | |
| Pedryn drycin Madeira | Oceanodroma castro | |
| Pedryn drycin Matsudaira | Oceanodroma matsudairae | |
| Pedryn drycin Tristram | Oceanodroma tristrami | |
| Pedryn drycin cynffonfforchog | Oceanodroma furcata | |
| Pedryn drycin du | Oceanodroma melania | |
| Pedryn drycin lludlwyd | Oceanodroma homochroa | |
| Pedryn drycin torchog | Oceanodroma hornbyi | |
| Pedryn drycin tywyll | Oceanodroma markhami | |
| Pedryn drycin wynebwyn | Pelagodroma marina | |
| Pedryn drycin y Galapagos | Oceanodroma tethys |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.









