William Roberts (Nefydd)

Oddi ar Wicipedia
William Roberts
Ganwyd8 Mawrth 1813 Edit this on Wikidata
Llanefydd Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 1872 Edit this on Wikidata
Abertyleri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
PriodJane Jones Edit this on Wikidata

Roedd William Roberts (Nefydd) (8 Mawrth, 181318 Mehefin, 1872) yn weinidog Bedyddwyr, argraffydd, llenor, eisteddfodwr ac hyrwyddwr Cymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd a Thramor.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Nefydd ym Mryngolau, Llanefydd, Sir Ddinbych (Sir Conwy, bellach) yn blentyn i Robert Roberts, crydd ac Anne ei wraig. Prin oedd ei addysg ffurfiol fel plentyn.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Aeth Nefydd i weithio i ŵr o'r enw Humphrey Jones yn Llanddulas a chafodd ei gyflwyno i enwad y Bedyddwyr. Ym 1832 cafodd ei fedyddio gan y Parch John Evans Glanwydden. Dechreuodd pregethu i'r enwad ac ym 1834 aeth at y Parch Robert Williams, Llansilin i baratoi am y weinidogaeth. Ym 1835 aeth i'r Wyddgrug fel gweinidog ar brawf. Ym 1837 ordeiniwyd ef yn weinidog ar Gapel Stanhope Street, Lerpwl. Ym 1845 symudodd i Flaenau Gwent lle fu yn weinidog ar gapel Salem am weddill ei oes.[2]

Llenor[golygu | golygu cod]

Yn Lerpwl bu Nefydd yn cymryd mantais o'r ddarpariaeth oedd ar gael yn y dref i oedolion heb fanteision addysg ffurfiol i wella eu hunain trwy fynych lyfrgelloedd a dosbarthiadau nos. Dechreuodd ysgrifennu traethodau ar bynciau megis crefydd, moeseg a hanes ar gyfer eisteddfodau, gyda llawer o lwyddiant. Erbyn iddo symud i Flaenau Gwent bu alw rheolaidd arno i feirniadu traethodau eisteddfodol.

Un o'r testunau daeth yn arbenigwr arno fel traethodydd bu hynafiaethau Cymru a hanes y Bedyddwyr. Enillodd ei draethawd ar hanes y Fari Lwyd ym Morgannwg a Mynwy y wobr gyntaf yn eisteddfod fawr y Fenni ym 1848 [3] ac fe'i cyhoeddwyd ym 1852. Mae llawer o'r wybodaeth sydd wedi goroesi am draddodiad y Fari Lwyd a dathliadau traddodiadol yr hen Nadolig Cymreig yn deillio o'r wybodaeth a gasglodd trwy holi pobl hŷn am eu hatgofion fel ymchwil ar gyfer ei draethodau.[4]

I gynorthwyo ei ymchwil casglodd Nefydd nifer fawr o lyfrau a llawysgrifau hynafol, gan gynnwys copïau o gerddi'r oesoedd canol a Llyfr Coch Asaph. Mae ei gasgliad bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol [5]

Fe sefydlodd Nefydd wasg yn y Blaenau ym 1864 bu'n gyfrifol am argraffu'r papur enwadol Y Bedyddiwr am bedair blynedd. Bu hefyd yn olygydd Y Goleuad.

Ymgyrch addysg[golygu | golygu cod]

Ym 1853 penodwyd Nefydd yn asiant Cymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd a Thramor yn ne Cymru. Dim ond aelodau o Eglwys Loegr oedd yn cael mynychu ysgolion ramadeg ac Ysgolion Cenedlaethol. Ysgolion i addysgu'r bobl gyffredin o bob enwad crefyddol oedd yr Ysgolion Brutanaidd a gan hynny yn cael cefnogaeth frwd gan anghydffurfwyr.[6] Rhwng 1853 a 1863 bu Nefydd yn brysur yn sefydlu ac archwilio'r ysgolion ac yn trefnu hyfforddiant ar gyfer athrawon. Bu'n gyfrifol am gynyddu nifer yr ysgolion yn y de o 6 i dros 500.[7] Bu hefyd yn dysgu mewn ysgol nos ei hun i hyfforddi darpar athrawon. Er fawr siom iddo daeth â'i gytundeb gyda'r Gymdeithas i ben ym 1863, gan nad oedd yn gallu gweithio llawn amser i'r gymdeithas o herwydd ei oblygiadau eraill fel gweinidog.[8]

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu Nefydd yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Jane Jones, merch y Parch Daniel Jones, gweinidog capel Bedyddwyr Crosshall Street, Lerpwl. Bu iddynt ddwy ferch. Bu farw Jane ym 1848. Ym 1850 priododd Mary (née Jones) gweddw Jenkin Edwards, gof, Blaenau Gwent; bu iddynt dau fab. Roedd yr ail fab y Parch Robert Henry Roberts (ap Nefydd) yn weinidog ar gapel y Presbyteriaid, Toowong, Brisbane, Awstralia.[9] Bu Mary farw ym 1861.[10]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Tua dechrau 1871 bu Nefydd yn teithio ar Reilffordd Gorllewin y Cymoedd a fu'r trên roedd yn teithio arni mewn damwain. Cafodd Nefydd cyfergyd i'w ben a effeithiodd ar ei allu ymenyddol. 18 mis yn ddiweddarach bu farw o effeithiau'r niwed i'w ymennydd. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Capel Salem, Blaenau Gwent.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Davies, W. Ll., (1953). ROBERTS, WILLIAM (‘Nefydd’ 1813 - 1872), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, cynrychiolydd y British and Foreign School Society yn Neheudir Cymru, argraffydd, eisteddfodwr, llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 25 Hyd 2019
  2. "MARWOLAETH NEFYDD - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1872-07-06. Cyrchwyd 2019-10-25.
  3. "THE GREAT EISTEDDFOD - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1848-11-04. Cyrchwyd 2019-10-25.
  4. "Welsh Tit Bits Neu Wreichion Oddi ar yr Eingion - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1909-12-25. Cyrchwyd 2019-10-25.
  5. LlGC Casgliad Nefydd
  6. "History of the BFSS | The British & Foreign School Society". Cyrchwyd 2019-10-25.
  7. "Agor Training College Abertawe - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1872-04-03. Cyrchwyd 2019-10-25.
  8. Cylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol BRITISH SCHOOLS IN SOUTH WALES THE REV. WILLIAM ROBERTS (NEFYDD), SOUTH WALES REPRESENTATIVE OF THE BRITISH AND FOREIGN SCHOOL SOCIETY, 1853-1863
  9. "CONGL Y MARWGOFION - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1909-07-02. Cyrchwyd 2019-10-25.[dolen marw]
  10. "PRIODWYD - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1861-03-09. Cyrchwyd 2019-10-25.
  11. "FARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y PARCH W ROBERTS LL.D. NEFYDD BLAENAU - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1872-06-28. Cyrchwyd 2019-10-25.