Abertyleri
| Abertyleri | |
| Saesneg: Abertillery | |
Golwg o gefn Stryd Adda yn Abertyleri, mis Mawrth, 2000 |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 11,528 (Cyfrifiad 2001) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans | SO215045 |
| Prif ardal | Blaenau Gwent |
| Sir seremonïol | Gwent |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | ABERTYLERI |
| Cod deialu | 01495 |
| Yr Heddlu | Gwent |
| Tân | De Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Blaenau Gwent |
| Cynulliad Cymru | Blaenau Gwent |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Blaenau Gwent | |
Tref ym Mlaenau Gwent, De Cymru yw Abertyleri. Saif y dref 16mi i'r Gogledd-orllewin o Gasnewydd, ar y Great Western Railway yn wreiddiol. Cododd ei phoblogaeth yn dra chyflym yn ystod y cyfnod o ddatblygu mwyngloddio yn Ne Cymru, gyda 10,846 o breswylwyr yn ôl Cyfrifiad 1891 ac wedyn i 21,945 ddeng mlynedd diweddarach. Yn gorwedd yn yr ardal fwyngloddio fynyddig o'r hen siroedd o Sir Fynwy a Sir Forgannwg, yng nghwm Ebwy Fach, roedd y preswylwyr fel arfer yn gweithio yn y glofeydd, gwaith haearn, a gwaith tunplat.
Mae sawl ysgol gynradd fach, ysgol uwchradd, a chanol tref traddodiadol gan Abertyleri. Heddiw, mae poblogaeth o 11,528 ganddi, ac yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 9.9% (1,146) o'i phreswylwyr yn siarad Cymraeg,[1]. Yn 2003, roedd tai rhatach y Deyrnas Unedig gan Abertyleri yn ôl arolwg y Halifax, gyda phris cyfartalog o £37,872.[2] Yn boblogaidd oherwydd ei golygfeydd gwledig, mae'r ardaloedd bach o Aber-bîg, Llanhiledd, Cwmtyleri, a Chwe Chloch ar ei phwys.
Mae'r enw'n ymddangos gyntaf mewn argraffiad ym 1779, a tharddiad y gair yw "Aber" (ceg afon) ac enw'r afon fechan "Teleri" a ymddangosodd gyntaf ym 1332. Mae'r gair hwnnw hefyd yn gyfansoddiad o ddau enw, sef "tŷ" ac "Eleri" (enw person).[3]
Roedd coedwig enfawr gerllaw'r dref ers talwm o'r enw Glyn Teleri, ond Cwmtyleri ydy'r enw sydd bellach ar yr ardal hon.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Dogfen Bwrdd yr Iaith Gymraeg, "Nifer a Chanran siaradwyr 3 oed + (Cymunedau ac oedran)" gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, 26 Chwefror 2004 (dogfen ecsel)
- ↑ Abertillery's the cheapest town (en) , South Wales Echo, Nodyn:DyddiadFformat, Tudalen 3. Cyrchwyd ar Nodyn:DyddiadFformat.
- ↑ Dictionary of the Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2007
|
||||||||||