Mae Tlws Goffa Elvet a Mair Elvet Thomas yn wobr a gyflwynir i diwtor Cymraeg sydd yn, neu wedi gwneud cyfraniad nodedig, i’r sector Dysgu Cymraeg fel ail-iaith. Cyflwynir y Wobr fel rheol ym Mhabell y Dysgwyr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.[1] Cyflwynir y Tlws a gwobr ariannol gan Havard a Rhiannon Gregory, er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas. Yn ogystal â gwobr ariannol o £300 a thlws hardd i’w gadw am flwyddyn, cyflwynir darn arbennig o femrwnGregynog i’r enillydd hefyd.[2]
Cyflwynir y Tlws er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas. Roedd Elvet Thomas yn athro yn Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd, lle ysbrydolodd genedlaethau o ddisgyblion, y mwyafrif o gartrefi di-Gymraeg, i ddysgu’r iaith. Sefydlodd ef Adran o'r Urdd yn yr ysgol yn y 1920au, ac fe daflodd ei hun i mewn i holl weithgareddau'r mudiad yn y cyfnod hwnnw.[1]