Smyglo

Oddi ar Wicipedia

Trawsgludiad cudd o nwyddau neu bobl heibio man sy'n waharddedig, megis allan o adeilad, i mewn i garchar neu dros ffin rhyngwladol, gan dorri cyfreithiau neu reolau perthnasol eraill ydy smyglo.

Ceir nifer o resymau gwahanol dros smyglo. Mae rhain yn cynnwys bod yn rhan o fasnach anghyfreithlon, megis cyffuriau, mewnfudiad neu ymfudiad anghyfreithlon, darparu contraband i garcharor neu ddwyn eitemau sy'n cael eu smyglo. Byddai esiamplau o smyglo na sydd am resymau ariannol yn cynnwys mynd ag eitemau gwaharddedig heibio man gwirio diogelwch (mewn maes awyr er enghraifft) neu i symud gwybodaeth ddosbarthedig o swyddfa lywodraethol neu gorfforaethol.

Smyglo sigarets mewn llyfr; München, Yr Almaen

Mae smyglo yn thema gyffredin mewn llenyddiaeth, o opera Bizet Carmen i'r llyfrau a'r ffilmiau James Bond Diamonds are Forever a Goldfinger. Yng Nghymru, ysgrifennodd T. Llew Jones nofelau am smyglo, gan gynnwys Dial o'r Diwedd a Dirgelwch yr Ogof.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd smyglo yn drosedd gyffredin iawn yn ystod y 18fed ganrif oherwydd y tollau uchel a osodwyd ar nwyddau fel halen, te, defnyddiau moethus fel sidan, gwirodydd a thybaco. Dyma oedd oes aur smyglo.  Er mwyn osgoi talu’r tollau a’r trethi hyn byddai nwyddau yn cael eu cludo ar y môr a’u dosbarthu gan longau fyddai’n glanio ar hyd rhannau diarffordd yr arfordir. Roedd arfordir gorllewin a de Cymru, ac arfordir de Lloegr yn ddelfrydol ar gyfer ysbeilio nwyddau liw nos oherwydd eu ogofau cuddiedig a thraethau diarffordd. Defnyddiwyd sawl un o borthladdoedd bach Cymru fel mannau dosbarthu nwyddau gan fasnachwyr a dynion busnes.

Byddai’r smyglwyr yn gweithio mewn gangiau o 50-100 ac roedd dyletswyddau penodol gyda gwahanol aelodau’r gang, er enghraifft, Spotsmon, Glaniwr, Cychwr, Batsmyn.  Roedd y Swyddogion Tollau yn wyliadwrus o’r arfordir gan wybod ei fod yn gyrchfan cyfleus a rhwydd i lanio nwyddau’r smyglwyr. Er hynny, un o’r rhesymau pam oedd smyglo mor gyffredin oedd oherwydd bod swyddogion y tollau’n gweithio’n ddi-dal.

Defnyddiwyd arfordir gorllewin Cymru yn gyson ar gyfer smyglo gwahanol fathau o gynnyrch i mewn i’r wlad.  Roedd mannau ar hyd arfordir Sir Benfro, fel Maenorbyr a Solfach yn ganolfannau adnabyddus ar gyfer smyglo ac roedd Ogof Whisgi wedi ei leoli ar hyd arfordir y sir hefyd.  Ym Mhenrhyn Gŵyr, roedd ‘Brandy Cove’ yn cael ei ddefnyddio, fel mae’r enw yn awgrymu, i smyglo whisgi.  Ar hyd arfordir Ceredigion, roedd halen yn gynnyrch a smyglwyd fewn yn gyson ar hyd yr arfordir rhwng Cei Newydd ac Abergwaun ac roedd Siôn Cwilt yn un o’r smyglwyr adnabyddus yr arfordir hwnnw.   Roedd arfordir gorllewin Cymru yn gyrchfan cyfleus i smyglo nwyddau oedd yn dod yn rheolaidd o Iwerddon ac Ynys Manaw.[1]

Yng ngogledd Cymru, roedd arfordir Sir Fôn, yn cael ei ddefnyddio gan y smyglwyr ac roedd harbwr Bangor, Pwllheli ac Aberdyfi ymhlith porthladdoedd a cyrchfannau poblogaidd a ddefnyddiwyd gan y smyglwyr hefyd. Ymhlith smyglwyr mwyaf adnabyddus y cyfnod roedd  Stephen a Thomas Richards, John Connor, William Arthur a oedd yn byw ym Mhenrhyn Gŵyr[1][2] a William Owen, a anwyd yn Nanhyfer, Sir Benfro yn 1717 ac a grogwyd ym Mai 1747 am lofruddiaeth.[3] Wedi i’r Llywodraeth leihau’r tollau ar nwyddau fel te yn y 1830au nid oedd gymaint o alw nac elw wrth smyglo nwyddau tebyg ac roedd cyflwyniad gwylwyr y glannau wedi llwyddo i fod yn arf ataliol ar weithgareddau’r smyglwyr.[1][2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Smyglo yn y 18fed ganrif - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
  2. 2.0 2.1 Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. tt. 860–861.
  3. 3.0 3.1 "Hunangofiant Smyglwr | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-03-27.