Gwirod
Oddi ar Wicipedia
Hylif yfadwy sy'n cynnwys ethanol a gaiff ei gynhyrchu trwy ddistyllu grawn, ffrwyth, neu lysiau eplesedig yw gwirod (lluosog: gwirodydd, gwirodau), diod ddistyll, neu licar (lluosog: licars[1]; o'r Saesneg liquor) neu weithiau yn Ne Cymru licorach.[1] Maent yn cynnwys brandi, shnaps, jin, rỳm, tecila, fodca, wisgi, ac absinth.