Richard Hughes Williams (Dic Tryfan)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr trawiadol Tair Stori Fer gan Dic Tryfan, gyda darlun gan Downing Williams (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1916)

Awdur storïau byrion a newyddiadurwr oedd Richard Hughes Williams (tua 1878–1919), "Dic Tryfan" i'w gyfeillion a'i ddarllenwyr.

Ei Fywyd[golygu]

Ganwyd Dic Tryfan yn Rhosgadfan, ardal chwareli ar lethrau Moel Tryfan, yn yr hen Sir Gaernarfon, yn fab i chwarelwr.

Byr a digon helbulus oedd ei oes, ar sawl ystyr. Ar ôl addysg ysgol elfennol aeth am gyfnod i weithio yn glerc yn swyddfa papur newydd Y Genedl yng Nghaernarfon. Gweithiodd yn y chwarel am sbel ar ôl hynny ac er nad oedd yn hapus yn y gwaith roedd yn brofiad a roddai gefndir a thestun rhai o'i straeon gorau. Treuliodd gyfnod yn Lloegr yn ceisio ennill bywoliaeth trwy sgwennu erthyglau ac yna dychwelodd i Gymru i weithio fel newyddiadurwr yn Aberystwyth a Llanelli. Bu'n gweithio mewn ffatri arfau ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu farw yn ysbyty Tregaron yn 1919, pan nad oedd ond tua 44 mlwydd oed. Fel nifer o lenorion ac artistiaid eraill ni gafodd y clod a haeddai tan ar ôl ei farwolaeth.

Ei waith[golygu]

Clawr darluniedig Straeon y Chwarel (Caernarfon, d.d.)

Ymhlith cyfeillion Dic Tryfan oedd y nofelydd a newyddiaduruwr Edward Morgan Humphreys a T. Gwynn Jones. Yn ôl yr olaf yr oedd wedi sgwennu "rhai cannoedd" o storïau byrion, yn Gymraeg a Saesneg, ond dim ond canran cymharol bychan sydd i'w cael heddiw.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1915, roedd tair stori fer ganddo yn fuddugol, sef "Noswylio", "Y Colledig" ac "Yr Hogyn Drwg". Roedd yr awdur yn gweithio yn Llanelli ar y pryd. Cyhoeddwyd Straeon y Chwarel, detholiad o ddeuddeg o'i straeon, tua diwedd y 1920au, gyda rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones. Ni welodd y casgliad helaethach o'i straeon olau dydd tan 1936 pan gyhoeddodd Hughes a'i Fab, Wrecsam, gyfrol sy'n cynnwys deunaw o storïau ynghyd â rhagymadrodd gwerthfawr iawn gan E. Morgan Humphreys.

Mae'r chwarel a'i chymdeithas yn gyd-destun y rhan fwyaf o'i straeon, gyda thlodi a marwolaeth annhymorol yn elfennau amlwg ynddynt. Mewn hyn o beth mae ei waith yn agos iawn i waith cynnar Kate Roberts, ond bod arddull Dic Tryfan yn llawer mwy cynnil. Roedd Kate Roberts yn nabod Dic Tryfan yn eitha da a chyflwynodd ei chyfrol O Gors y Bryniau iddo er coffadwriaeth. Er bod nifer o'r straeon gan Dic Tryfan yn ddigon trist ceir smaldod a hiwmor tawel ynddynt hefyd a thrwy'r cyfan mae urddas dyn yn wyneb bywyd caled yn sefyll allan.

Llyfryddiaeth[golygu]

Straeon Dic Tryfan[golygu]

  • Tair Stori Fer (Wrecsam, 1916)
  • Straeon y Chwarel (Caernarfon, d.d. = c. 1918 efallai)
  • Storïau Richard Hughes Williams, gyda rhagymadrodd gan E. Morgan Humphreys (Wrecsam, 1932)
    • Argraffiad newydd: Cyfres Clasuron Hughes: Storïau Richard Hughes Williams. 1994. ISBN 9780852841495

Darllen pellach[golygu]

  • T. Gwynn Jones, Cymeriadau (Wrecsam, 1933). Yn cynnwys ysgrif ar Dic Tryfan.
  • Kate Roberts, Dau Lenor o Ochr Moel Tryfan (1970). Darlith.

Cyfeiriadau[golygu]