Edward Morgan Humphreys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
E. Morgan Humphreys
E.Morgan Humphreys 002.JPG
Llun o'r awdur ddiwedd y 1930au
Ganwyd Edward Morgan Humphreys
1882
Dyffryn Ardudwy, Gwynedd
Bu farw 1955
Cenedligrwydd Cymro
Enwau eraill "Celt"
Yn enwog am Nofelau plant a nofelau ditectif
Galwedigaeth Newyddiadurwr, awdur
Gweithgar 1900au - 1955

Newyddiadurwr a nofelydd oedd Edward Morgan Humphreys (14 Mai 1882 - 11 Mehefin 1955), yn frodor o Ddyffryn Ardudwy, Meirionnydd (Gwynedd). "Celt" oedd ei lysenw adnabyddus.

Gyrfa[golygu]

Yn 1905 ymunodd E. Morgan Humphreys â staff Y Genedl Gymreig yng Nghaernarfon a chafodd ei benodi'n olygydd y papur 4 mlynedd yn ddiweddarach. Golygodd hefyd The North Wales Observer ac Y Goleuad ac roedd yn gyfranydd cyson fel colofnydd ac adolygydd i'r Manchester Guardian a'r Liverpool Daily Post dan y ffugenw "Celt".

Gwaith Llenyddol[golygu]

Ymroddodd E. Morgan Humphreys i ysgrifennu nofelau antur a ditectif cyfaddas i bobl ifanc yng Nghymru a gwnaeth gymwynas fawr trwy lenwi'r bwlch hwnnw gan fod pobl ifanc y cyfnod, fel heddiw, yn tueddu i droi at lyfrau Saesneg. Er eu bod yn storïau wedi'u anelu at blant yn eu harddegau yn bennaf maent yn hynod ddarllenadwy ac yn ddiddorol i oedolion yn ogystal.

Ysgrifenodd yn ogystal lyfr ar hanes y wasg yng Nghymru a dwy gyfrol o bortreadau o enwogion Cymru, ynghyd â chyfieithiad o Cwm Eithin, clasur Hugh Evans.

Llyfrau[golygu]

I blant a phobl ifanc[golygu]

Eraill[golygu]

  • Y Wasg Gymraeg (1945)
  • The Gorse Glen (1948). Cyfieithiad o Cwm Eithin gan Hugh Evans.
  • Gwŷr Enwog Gynt (1950, 1953)

Llyfryddiaeth[golygu]

Gweler hefyd[golygu]


Llyfrau E. Morgan Humphreys E.Morgan Humphreys 002.JPG
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd