Robert Thomas Jenkins

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hanesydd ac awdur Cymreig oedd Robert Thomas Jenkins, yn ysgrifennu fel R. T. Jenkins (31 Awst 1881 - 11 Tachwedd 1969).[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ganed ef i deulu Cymreig yn Lerpwl, ond sumudodd y teulu i ddinas Bangor pan oedd yn ieuanc. Collodd ei fam a'i dad cyn bod yn naw oed, a magwyd ef gan deulu ei fan yn y Bala. Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Saesneg ac yna i Goleg y Drindod, Caergrawnt.[1]

Bu'n athro ysgol yn Llandysul, Aberhonddu a Chaerdydd. Yn 1930 penodwyd ef yn ddarlithydd annibynnol yn adran Hanes Cymru ym Mangor. Yn 1938 daeth yn olygydd cynorthwyol Y Bywgraffiadur Cymreig, a phan fu farw Syr John Edward Lloyd yn 1947 daeth yn gyd-olygydd â Syr William Llewelyn Davies. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg o'r Bywgraffiadur yn 1953 a'r fersiwn Saesneg yn 1959. Dyfarnwyd gradd D.Litt. Prifysgol Cymru iddo yn 1939 a LL.D. honoris causa (Cymru) yn 1956. Daeth yn Athro yn yr Adran Hanes yn 1945.[1]

Ysgrifennodd rai storïau byrion a Ffynhonnau Elim dan yr enw Idris Thomas.[1]

Cyhoeddiadau[golygu]

  • Hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928)
  • Yr Apêl at hanes (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930)
  • Ffrainc a'i phobl (1930)
  • Gruffydd Jones, Llanddowror (1930)
  • The bibliography of the history of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1931) gyda William Rees
  • Hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1933)
  • Y ffordd yng Nghymru (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1933)
  • Hanes cynulleidfa hen gapel Llanuwchllyn (1937)
  • The Moravian brethren in north Wales (1938)
  • Orinda (1943)
  • Ffynhonnau Elim (Llyfrau'r Dryw, 1945)
  • A History of the Honourable Society of Cymmrodorion (1951) gyda Helen Ramage
  • Casglu ffyrdd (1956)
  • Ymyl y ddalen (1957)
  • Yng nghysgod Trefeca (1968)
  • Edrych yn ôl (1968)
  • Cyfoedion (1974)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).