Maluku (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau Indonesia yw Maluku. Mae'n ffurfio rhan ddeheuol Ynysoedd Maluku (y Moluccas), i'r dwyrain o Sulawesi, i'r gorllewin o Guinea Newydd ac i'r gogledd o Timor. Y brifddinas yw Ambon.
O 1950 hyd 1999 roedd ynysoedd Maluku yn ffurfio un dalaith o Indonesia, ond yn y flwyddyn honno gwahanwyd hwy yn ddwy dalaith, sef Maluku a Gogledd Maluku. Arferai rhai o'r ynysoedd hyn fod o bwysigrwydd mawr oherwydd y sbeis a dyfid arnynt. Hyd y 19eg ganrif, Ynysoedd Banda oedd yr unig le yn y byd lle'r oedd nwtmeg yn tyfu.
Ynysoedd [golygu]
- Ynys Ambon (yr ynys fwyaf)
- Ynysoedd Aru
- Ynysoedd Babar
- Ynysoedd Banda
- Buru
- Ynysoedd Kai
- Ynys Leti
- Seram
- Ynysoedd Tanimbar
- Wetar