Maluku

Oddi ar Wicipedia
Maluku
Mathgrŵp o ynysoedd Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,895,000 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysfor Maleia Edit this on Wikidata
GwladBaner Indonesia Indonesia
Arwynebedd74,505 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,027 metr Edit this on Wikidata
GerllawMolucca Sea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau2°S 128°E Edit this on Wikidata
ID-ML Edit this on Wikidata
Map

Mae ynysoedd Maluku (hefyd y Moluccas) yn ynysoedd yn Indonesia, wedi eu lleoli i'r dwyrain o Sulawesi, i'r gorllewin o Gini Newydd ac i'r gogledd o Timor.

Nid yw'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fawr; mae arwynebedd y cyfan tua 74,505 km² gyda poblogaeth o 1,895,000 yn 2000. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fynyddig, a nifer gyda llosgfynyddoedd byw arnynt. Yn y 1950au datblygodd mudiad oedd yn anelu at annibyniaeth i ran ddeheuol Maluku (De Maluku, neu Maluku Selatan yn Indoneseg). O 1950 hyd 1999 roedd yr ynysoedd yn ffurfio un dalaith o Indonesia, ond yn y flwyddyn honno gwahanwyd hwy yn ddwy dalaith, Maluku a Gogledd Maluku. Rhwng 1999 a 2002 bu llawer o ymladd rhwng Cristionogion a dilynwyr Islam ar yr ynysoedd hyn, ond mae pethau wedi tawelu ers hynny.

Ynysoedd Maluku yn Indonesia

Ynysoedd[golygu | golygu cod]

Gogledd Maluku

Maluku