Ynysoedd Banda
Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd bychain yn rhan ddwyreiniol Indonesia yw Ynysoedd Banda (Indoneseg: Kepulauan Banda). Maent yn ffurfio rhan o dalaith Maluku.
Mae deg ynys fechan folcanig yn yr ynysoedd, gydaq phoblogaeth o tua 15,000, Y brifddinas yw Banda Neira, ar yr ynys o'r un enw. Hyd at y 19eg ganrif, yr ynysoedd yma oedd yr unig le yn y byd lle tyfid nytmeg.