Gogledd Maluku
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau Indonesia yw Gogledd Maluku. Mae'n rhan o Ynysoedd Maluku (y Moluccas), i'r dwyrain o Sulawesi, i'r gorllewin o Guinea Newydd ac i'r gogledd o Timor. Mae tua 870,000 o bobl yn byw yno (2004). Ternate yw prifddinas de facto y dalaith.
O 1950 hyd 1999 roedd ynysoedd Maluku yn ffurfio un dalaith o Indonesia, ond yn y flwyddyn honno gwahanwyd hwy yn ddwy dalaith, sef Maluku a Gogledd Maluku. Rhwng 1999 a 2002 bu llawer o ymladd rhwng Cristionogion a dilynwyr Islam ar yr ynysoedd hyn, ond mae pethau wedi tawelu ers hynny.