Buru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Buru

Ynys yn nwyrain Indonesia yw Buru. Mae'n un o ynysoedd deheuol Maluku.

Mae gan yr ynys arwynebedd o 8,473 km² a phoblogaeth o tua 61,000. Prifddinas yr ynys yw Namlea. Yng nghyfnod Suharto fel Arlywydd Indonesia, daeth yr ynys yn adnabyddus fel y man lle cedwid carcharorion gwleidyddol. Ymhlith y carcharorion hyn roedd Pramoedya Ananta Toer, a ysgrifennodd bedair nofel adnabyddus tra'r oedd yma.

Buru