Gogledd Sumatra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Gogledd Sumatra

Un o daleithiau Indonesia yw Gogledd Sumatra (Indoneseg: Sumatera Utara). Mae'r dalaith yng nhogledd ynys Sumatra. Mae'n ffinio ar dalaith Aceh yn y gogledd, Riau a Gorllewin Sumatra yn y de ac ar Gefnfor India yn y de-orllewin. Mae'n cynnwys ynys Nias.

Roedd y boblogaeth yn 11,642,000 yn 2000. Y brifddinas yw Medan, ac ymysg y dinasoedd eraill mae Pematang Siantar a Sibolga. Ymhlith yr atyniadau i dwristiaid mae Llyn Toba ac ynys Samosir, sy'n ganolfan diwylliant y Batak.


Taleithiau Indonesia Baner Indonesia
Aceh | Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta | Ardal Arbennig Yogyakarta | Bali | Bangka-Belitung | Banten | Bengkulu | Canolbarth Jawa | Canolbarth Kalimantan | Canolbarth Sulawesi | De Kalimantan | De Sulawesi | De-ddwyrain Sulawesi | De Sumatra | Dwyrain Jawa | Dwyrain Kalimantan | Dwyrain Nusa Tenggara | Gogledd Maluku | Gogledd Sulawesi | Gogledd Sumatra | Gorllewin Jawa | Gorllewin Kalimantan | Gorllewin Nusa Tenggara | Gorllewin Papua | Gorllewin Sulawesi | Gorllewin Sumatra | Jambi | Lampung | Maluku | Papua | Riau | Ynysoedd Riau