Dwyrain Jawa
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau Indonesia yw Dwyrain Jawa (Indoneseg: Jawa Timur). Mae'n ffurfio rhan ddwyreiniol ynys Jawa ac yn cynnwys ynys lai Madura yn y gogledd, ac roedd y boblogaeth yn 35,839,000 yn 2000. Y brifddinas yw Surabaya.
Mae'r dalaith yn ffinio ar dalaith Canolbarth Jawa yn y gorllewin, gydag ynys Bali ar draws y culfor i'r dwyrain. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Fôr Jawa ac yn y de ar Gefnfor India. Ceir nifer o losgfynyddoedd yma, yn cynnwys Mynydd Bromo, sy'n atyniad pwysig i dwristiaid, a Mynydd Semeru. Mae'r tir yn ffrwythlon, a thyfir reis ar draws ardal helaeth o'r dalaith, gyda siwgwr hefyd yn bwysig. Mae dinasoedd y dalaith yn cynnwys Malang, Kediri a Banyuwangi.