Llyn Toba
Oddi ar Wicipedia
Llyn yng ngogledd ynys Sumatra yn Indonesia yw Llyn Toba (Indoneseg: Danau Toba). Saif yn nhalaith Gogledd Sumatra, ac mae'n 100 km o hyd a 30 km o led. Yn ei ganol, ceir ynys folcanig Ynys Samosir.
Ffurfiwyd y llyn yn yr hyn sydd efallai'r caldera atgyfodol mwyaf ar y Ddaear, a grëwyd gan ffrwydrad enfawr tua 73,000-75,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd y ffrwydrad effaith ar ran helaeth o'r byd, gan wasgaru llwch cyn belled â Tsieina a de Affrica. Credir i'r ffrwydrad achosi marwolaeth tua 60% o boblogaeth ddynol y byd. Ystyrir y llyn a'r ynys yn ganolfan diwylliant y Batak, ac maent yn gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid.