Batak
Oddi ar Wicipedia
| Batak | |
|---|---|
| Cyfanswm poblogaeth | 6 miliwn |
| Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
| Gogledd Sumatra: 4 827 000
Riau: 347,000 Jakarta: 301 000 Gorllewin Jafa: 275 000 Gorllewin Sumatera: 188,000 |
|
| Ieithoedd | Ieithoedd Batak, Indoneseg |
| Crefyddau | Cristnogaeth, Islam, Parmalim |
| Grwpiau ethnig perthynol | Malayaid |
Grŵp ethnig, neu nifer o grwpiau ethnig yn perthyn i'w gilydd, yng ngogledd ynys Sumatera yn Indonesia yw'r Batak. Maent yn byw yng nghanolbarth rhan ogleddol yr ynys, gyda chanolfan o amgylch Llyn Toba ac Ynys Samosir. Mae tua 6 miliwn ohonynt i gyd.
Cyn iddynt ddod dan reolaeth Ymerodraeth yr Iseldiroedd, roedd y Batak yn enwog fel rhyfelwyr ffyrnig ac fel canibaliaid. Trowyd llawer ohonynt at Gristnogaeth gan genhadon o'r Iseldiroedd a'r Almaen, a'r eglwys Batak yw eglwys Gristionogol fwyaf Indonesia. Mae eraill o'r Batak yn ddilynwyr Islam. Maent yn siarad nifer o ieithoedd sydd a pherthynas agos a'i gilydd.