Ynys Samosir
Oddi ar Wicipedia
Ynys yng nghanol Llyn Toba yn Sumatra, Indonesia yw Ynys Samosir (Indoneseg: Palau Samosir).
Gydag arwynebedd o 630 km², Samosir yw'r bumed fwyaf ymysg ynysoedd mewn llynnoedd y byd, a'r ynys fwyaf sydd o fewn ynys arall. Ceir nifer o bentrefi arni: Tuk Tuk, Tomok, Ambarita, Simanindo a Panguruan. Ystyrir yr ynys yn ganolbwynt diwylliant y Batak, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristaid.