Riau (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau Indonesia yw Riau. Mae'n ffurfio rhan o orllewin canolbarth ynys Sumatera. Hyd 2004, roedd Ynysoedd Riau yn rhan o'r dalaith, ond fe'i gwahanwyd y flwyddyn honno.
Roedd y boblogaeth yn 5,311,000 yn 2000. Y brifddinas yw Pekanbaru. Mae'r dalaith yn cynhyrchu tua hanner olew Indonesia.