Gorllewin Papua (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau Indonesia yw Gorllewin Papua. Mae'r dalaith yn ffurfio rhan orllewinol rhan Indonesia o ynys Guinea Newydd. Mae'n ffinio ar dalaith Papua yn y dwyrain, ac yn cynnwys ynysoedd Waigeo a Misool.
Crewyd y dalaith yn 2003, pan rannwyd hen dalaith Papua yn ddwy ran. Roedd y boblogaeth yn 514,000 yn 2005. Y brifddinas yw Manokwari, a'r ddinas ail-fwayaf yw Sorong.