Aceh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Aceh
Aceh

Un o daleithiau Indonesia yw Aceh, hefyd Nanggroë Aceh Darussalam. Mae'n ffurfio rhan fwyaf gogleddol ynys Sumatera, yn fras yr un diriogaeth a Swltaniaeth Aceh rhwng y 15fed ganrif a'r 19eg ganrif. Roedd y boblogaeth yn 4,031,589 yn 2005. Y brifddinas yw Banda Aceh.

Mae'r dalaith yn ffinio ar dalaith Gogledd Sumatera yn y de. Bu llawer o ymladd yma yn erbyn yr Iseldirwyr yn y cyfnod trefedigaethol, ac yn ddiweddarach datblygodd mudiad cryf yn hawlio annibyniaeth oddi wrth Indonesia, yn cynnwys gwrthryfel arfog gan GAM, (Gerakan Aceh Merdeka, "Mudiad Aceh Annibynnol"). Dioddefodd Aceh yn fwy nag unrhyw ardal arall o effethiau'r tsunami ar 26 Rhagfyr 2004; er enghraifft, dinistriwyd Banda Aceh bron yn llwyr. Yn sgîl hyn, gwnaed cytundeb rhwng y cenedlaetholwyr a'r llywodraeth Indonesiaidd oedd yn rhoi mesur helaeth o ymreolaeth i Aceh.

Mae bron y cyfan o'r boblogaeth yn ddilynwyr Islam.


Taleithiau Indonesia Baner Indonesia
Aceh | Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta | Ardal Arbennig Yogyakarta | Bali | Bangka-Belitung | Banten | Bengkulu | Canolbarth Jawa | Canolbarth Kalimantan | Canolbarth Sulawesi | De Kalimantan | De Sulawesi | De-ddwyrain Sulawesi | De Sumatra | Dwyrain Jawa | Dwyrain Kalimantan | Dwyrain Nusa Tenggara | Gogledd Maluku | Gogledd Sulawesi | Gogledd Sumatra | Gorllewin Jawa | Gorllewin Kalimantan | Gorllewin Nusa Tenggara | Gorllewin Papua | Gorllewin Sulawesi | Gorllewin Sumatra | Jambi | Lampung | Maluku | Papua | Riau | Ynysoedd Riau