Lôn Las Cymru
Oddi ar Wicipedia
Mae Lôn Las Cymru yn llwybr beiciau sydd tua 250 milltir neu 400 cilometr o hyd, yn rhedeg ar draws Cymru. Mae llwybr rhif 42 yn rhan o Rwydwaith Seiclo Cenedlaethol Sustrans.
Mae gan y llwybr ddau bwynt cychwyn yn y de: Caerdydd a Chas-gwent. Mae'r ddau lwybr cychwynol yn ymuno yn Llanfair-ym-Muallt ac yn teithio drwy: Llanidloes, Machynlleth, Abermaw, Cricieth, Caernarfon, Bangor gan orffen yng Nghaergybi, Ynys Môn.
Mae darnau o'r llwybr yn dilyn gwely hen draciau rheilffyrdd megis Lôn Las Menai, Lôn Eifion, Llwybr Mawddach a Llwybr Taf.
Llwybr Caerdydd [golygu]
Mae hon yn cynnwys Llwybr Taf o Gaerdydd.