Henry Thomas Edwards

Oddi ar Wicipedia
Henry Thomas Edwards
Ganwyd6 Medi 1837 Edit this on Wikidata
Llanymawddwy Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mai 1884 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
Rhiwabon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdeon, offeiriad Anglicanaidd Edit this on Wikidata

Roedd Henry Thomas Edwards (6 Medi 183724 Mai 1884) yn offeiriad Anglicanaidd Cymreig a wasanaethodd fel Deon Bangor.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edwards yn rheithordy Llanymawddwy, yn drydydd mab y Parch. William Edwards, rheithor y plwyf a Louisa ei wraig. Roedd yn frawd i Alfred George Edwards, Archesgob Cyntaf Yr Eglwys yng Nghymru.[2] Cafodd ei addysgu gartref hyd ei fod yn 15 mlwydd oed pan gafodd ysgoloriaeth fer i Ysgol Westminster fel ysgolor esgobion Cymru.[3] Wedi i'r ysgoloriaeth dod i ben ar ôl flwyddyn dychwelodd adref, gan nad oedd ei dad yn gallu fforddio talu am barhad ei addysg yn yr ysgol. Ar ôl dwy flynedd gartref aeth i ysgol ramadeg Stamford, Swydd Lincoln am gyfnod ac yna i Goleg yr Iesu, Rhydychen ym 1857. Enillodd gradd BA cyffredin yn y Clasuron ym 1861, ond oherwydd waeledd bu'n rhaid iddo ymadael a'r coleg cyn cyflawni'r arholiadau terfynol am radd gydag anrhydedd.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Swydd gyntaf Edwards, wedi ymadael a'r brifysgol, oedd fel athro yng Ngholeg Llanymddyfri.[5] Oherwydd ei iechyd bu yno am ddim ond ychydig fisoedd. Yn y cyfamser roedd ei dad wedi ymadael a rheithoriaeth Llanymawddwy ac wedi ei drosglwyddo i Langollen. Ordeiniwyd Edwards yn offeiriad Eglwys Loegr ac aeth i weithio fel curad i'w dad. Aeth ei dad yn llesg ychydig wedi iddo ddod yn rhaglaw iddo, a bu'n rhaid i Henry ysgwyddo baich y cyfan, bron, o gyfrifoldebau'r plwyf yn hytrach na chael y gorffwysed gartref a disgwyliwyd. Er gwaethaf salwch y tad a'r mab bu cyfnod Edwards yn Llangollen yn un llwyddiannus. Llwyddodd i godi £3,000 i adfer adeiledd Eglwys Sant Collen, Llangollen.

Ym 1866 penodwyd Edwards yn ficer Aberdâr.[6] Roedd Aberdâr, fel gweddill plwyfi Cymru, yn gwaedu aelodau'r Eglwys Anglicanaidd i'r anghydffurfwyr gan nad oedd eglwys y plwyf yng nghanol y boblogaeth newydd ddiwydiannol. Cododd arian i geisio atal y llif trwy adeiladu Eglwys newydd yng Nghwmaman.

Ym 1869 symudodd Edwards i Gaernarfon i wasanaethu fel ficer y plwyf Llanbeblig. Ym 1876 fe'i penodwyd yn Ddeon yn Eglwys Gadeiriol Bangor.[7]

Gwrthwynebiad i ddatgysylltu[golygu | golygu cod]

Pwnc llosg y dydd yn ystod cyfnod gweinidogaeth Edwards oedd datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.[8] Ers cyfnod Harri VIII, Eglwys Loegr oedd eglwys wladol Cymru a Lloegr, ac roedd disgwyl i bob dinesydd talu am ei gynnal. Roedd hyn yn achosi anghydfod yng Nghymru gan fod cynifer o bobl yn aelodau o'r eglwysi anghydffurfiol megis y Methodistiaid a'r Bedyddwyr. Doedd yr anghydffurfwyr ddim yn hoffi cael eu gorfodi i dalu am gorff crefyddol nad oeddynt yn ei ddefnyddio ac yn ymgyrchu i dorri'r cysylltiad rhwng Eglwys Loegr a'r wladwriaeth yng Nghymru.[9] Roedd Edwards yn wrthwynebydd cryf i'r syniad o ddatgysylltu, ond roedd yn ymwybodol o gyfiawnder rai o gwynion y Cymry am yr Eglwys sefydledig.

Bu Edwards yn ymgyrch i ddiwygio'r Eglwys i ymateb i rai o'r cwynion a cheisio denu'r werin yn ôl i'r Eglwys Anglicanaidd. Roedd system blwyfol yr Eglwys yn deillio o drefniant a sefydlwyd yn yr oesoedd canol ac yn anaddas i Gymru'r oes ddiwydiannol. Roedd nifer o Eglwysi plwyf mewn llefydd gwledig tra fo'r boblogaeth yn byw mewn trefi newydd yn agos i'w gwaith. Roedd tref llechi poblog Bethesda ym mhlwyf Llanllechid, gyda'r eglwys dros ddwy filltir i ffwrdd o ganol y dref. Er bod Eglwys ym muriau tref Caernarfon ar gyfer bwrdeiswyr, roedd eglwys y werin bobl milltir a hanner i ffwrdd yn Llanbeblig. Roedd amryw byd o gapeli yn y trefi i'r dosbarth gweithiol addoli ynddynt. Bu Edwards yn gefnogol i'r ymgyrch i godi eglwysi Anglican newydd yn y trefi fel bod yr eglwys wladol o fewn cyrraedd hawdd i'r dosbarth gweithiol. I'r perwyl hwn cododd arian i adeiladu Eglwys newydd Dewi Sant yng nghanol tref Caernarfon. Mewn cyfnod lle'r oedd nifer fawr o bobl Cymru yn uniaith Gymraeg roedd yr Eglwys Anglicanaidd yn gallu bod yn hynod Seisnigaidd. Sefydlodd Cymdeithas Addysg Glerigol Bangor, a oedd â'r nod o gyflenwi clerigwyr addysgedig i'r esgobaeth a oedd yn gallu gweinidogaethu'n effeithlon yn yr iaith Gymraeg. Ysgrifennodd llyfryn ar ffurf cyfarchiad i'r Prif weinidog Gladstone ym 1870 o'r enw The Church of the Cymry. Yn y cyfarchiad beiodd Edwards ddieithriad mwyafrif helaeth y Cymry o'r eglwys sefydledig ar benodi esgobion Saesneg yng Nghymru.[10] Roedd y cyfarchiad yn hynod lwyddiannus. Yn dilyn ei gyhoeddi, bu'r holl esgobion Eglwys Loegr a benodwyd yng Nghymru yn Gymry, y mwyafrif yn Gymry Cymraeg.

Aflwyddiannus bu ymgyrch Edwards yn erbyn datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru. Sefydlwyd Yr Eglwys yng Nghymru, fel cangen annibynnol, heb ei wladoli, o'r gyfundeb Anglicanaidd ym 1920, gyda Alfred George, ei frawd bach, yn gwasanaethu fel Archesgob cyntaf yr enwad newydd.

Tu allan i faes crefydd bu Edwards yn ymgyrchydd brwd dros sefydlu cangen o Brifysgol Cymru ym Mangor.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Edwards ddwywaith. Priododd Mary Davies yn Aberdâr ym 1867 cawsant un ferch. Bu farw Mary ym 1871. Ym 1873 priododd Anne Dorothy Jones,[11] bu iddynt dwy ferch. Bu farw Anne Dorothy ym 1875.[12]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu Edwards yn dioddef o byliau o iselder ysbryd trwy gydol ei fywyd. Ym 1883 cafodd cyfnod o iselder dwys iawn a oedd yn ei wneud yn nerfus ac yn ei rwystro rhag cael cwsg. Aeth a'r fordaith trwy'r Môr Canoldir i geisio cael gorffwys a rhyddhad ond heb lwyddiant. Wedi dychwelyd o'i daith aeth i aros gyda'i frawd Y Parch E W Edwards, ficer Rhiwabon. Ar fore Sadwrn 24 Mai 1884 daeth ei frawd ar hyd i'w gorff wedi ymgrogi yn ei ystafell wely.[13] Cafwyd trengholiad y Llun canlynol a dyfarnwyd bod Edwards wedi cyflawni hunan laddiad.[14] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Glan Adda, Bangor.[15]


Cofiwch!

Byw yng ngwledydd Prydain? Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim ar: 116 123 unrhyw dro, os ydych yn teimlo'n isel.
Byw yn yr Ariannin? Ffoniwch 107 neu +5402234930430.
Mae rhannu eich pryder yn help ac yn beth da. Awduron lleyg sy'n cyfrannu at Wicipedia,
ond mae cysylltu gyda phobl broffesiynol, a all eich helpu, yn llawer gwell!


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "EDWARDS, HENRY THOMAS (1837 - 1884), deon Bangor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-05-20.
  2. "EDWARDS, ALFRED GEORGE (1848 - 1937), archesgob cyntaf Cymru | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-05-20.
  3. "Edwards, Henry Thomas (1837–1884), dean of Bangor". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/8540. Cyrchwyd 2020-05-20.
  4. Y Bugeilydd cylchgrawn misol at wasanaeth ysgol Sul yr eglwys Cyf. I rhif. 8 - Mehefin 1881 ENWOGION YR EGLWYS GYMREIG. Y Tra Pharchedig Henry Thomas Edwards, M.A., Deon Bangor. adalwyd 20 mai 2020
  5. "Llandovery College - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1898-08-06. Cyrchwyd 2020-05-20.
  6. "ABERDARE - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1866-08-25. Cyrchwyd 2020-05-20.
  7. "THE DEANERY OF BANGOR - Wrexham Guardian". William Garratt Jones & John Hamlyn. 1876-04-01. Cyrchwyd 2020-05-20.
  8. "CYMRU 1883 - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1884-01-02. Cyrchwyd 2020-05-20.
  9. "Deon Bangor a'r Eglwys yng Nghymru - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1884-01-23. Cyrchwyd 2020-05-20.
  10. "ANGLICAN SERVICES IN WELSH CATHEDRALS - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1890-02-08. Cyrchwyd 2020-05-20.
  11. "Priodasau - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1873-01-29. Cyrchwyd 2020-05-20.
  12. "Family Notices - Wrexham Guardian". William Garratt Jones & John Hamlyn. 1876-01-15. Cyrchwyd 2020-05-20.
  13. "HUNAN LADDIAD DEON BANGOR - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1884-05-29. Cyrchwyd 2020-05-20.
  14. "THE INQUEST - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1884-05-31. Cyrchwyd 2020-05-20.
  15. "BANGOR - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1886-02-12. Cyrchwyd 2020-05-20.