Gwobr Sakharov
Oddi ar Wicipedia
Sefydlwyd Gwobr Sakharov er rhyddid meddwl, a enwir ar ôl y gwyddonydd Sofietaidd a gwrthdystiwr Andrei Sakharov, yn Rhagfyr 1988 gan Senedd Ewrop fel cyfrwng i anrhydeddu unigolion neu fudiadau sydd wedi cysegru eu hunain i amddiffyn hawliau dynol a rhyddid yr unigolyn.
Rhoddir y Wobr Sakharov bob blwyddyn ar neu o gwmpas y 10fed o Ragfyr, sef y diwrnod pan gadarnaodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredin am Hawliau Dynol (Universal Declaration of Human Rights) yn 1948, a ddethlir hefyd fel y Diwrnod Hawliau Dynol.
Derbynwyr [golygu]
- 1988: Nelson Mandela (De Affrica) ac Anatoly Marchenko (Undeb Sofietaidd; ar ôl ei farw)
- 1989: Alexander Dubček (Tsiecoslofacia)
- 1990: Aung San Suu Kyi (Myanmar)
- 1991: Adem Demaçi (Iwgoslafia)
- 1992: Mamau'r Plaza de Mayo (Yr Ariannin)
- 1993: Oslobođenje (Bosnia a Herzegovina)
- 1994: Taslima Nasrin (Bangladesh)
- 1995: Leyla Zana (Twrci)
- 1996: Wei Jingsheng (Gweriniaeth Pobl Tsieina)
- 1997: Salima Ghezali (Algeria)
- 1998: Ibrahim Rugova (Iwgoslafia)
- 1999: Xanana Gusmão (Dwyrain Timor)
- 2000: ¡Basta Ya! (Sbaen)
- 2001: Nurit Peled-Elhanan (Israel), Izzat Ghazzawi (Palesteina), Zacarias Kamwenho (Angola)
- 2002: Oswaldo Payá (Cuba)
- 2003: Cenhedloedd Unedig
- 2004: Cymdeithas Newyddiadurwyr Belarws (Belarws)
- 2005: Merched mewn Gwyn (Cuba), Reporters Without Borders a Hauwa Ibrahim (Nigeria)
- 2006: Alaksandar Milinkievič (Belarus)
- 2007: Salih Mahmoud Osman (Swdan)
- 2008: Hu Jia (Gweriniaeth Pobl Tsieina)
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan y Wobr Sakharov
- (Saesneg) Areithiau