Jafar Panahi

Oddi ar Wicipedia
Jafar Panahi
Ganwyd11 Gorffennaf 1960 Edit this on Wikidata
Mianeh Edit this on Wikidata
Man preswylTehran Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIran Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Darlledu Iran
  • Prifysgol Tehran Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, golygydd ffilm, sgriptiwr, actor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
PlantPanah Panahi Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Sakharov, Caméra d'Or, Golden Leopard, Y Llew Aur, Un Certain Regard, Silver Bear, Carrosse d'or, Silver Bear for Best Script, Yr Arth Aur, Ehrendoktor der Universität Straßburg, Preis für die Freiheit und Zukunft der Medien, Gwobr i'r Sgript Gorau (Gŵyl Ffilm Cannes) Edit this on Wikidata

Mae Jafar Panahi yn gyfarwyddwr ffilm ac ysgrifennwr sgriptiau Iranaidd. Yn un o enwau mwyaf amlwg y dôn newydd o sinema Iran a bellach y byd sinema rhyngwladol tu allan i system Hollywood.

Yn dilyn nifer o flynyddoedd o gyd-weithio gyda'r cyfarwyddwr Abbas Kiarostami mae Panahi wedi ennill nifer o wobrau o fri yn cynnwys Gŵyl Filmiau Cannes am The White Balloon (1995) ac gwobrau Gŵyl Ffilmiau Berlin am Offside (2006) a Taxi Tehran.[1]

Mae ei arestio a'r gwaharddiadau yn ei erbyn gan Lywodraeth Iran, wedi'u condemio ar draws y byd. Mae nifer fawr o enwogion Hollywood wedi codi'u llais yn erbyn ei arestio ac mae Barack Obama wedi darlledu apêl ar ei ran.[2]

Ffilmiau a gwaharddiadau[golygu | golygu cod]

Graddiodd o Brifysgol Ffilm a Theledu Tehran ac aeth ymlaen i weithio fel cynorthwy-ydd i'r cyfarwyddwr Iranaidd enwog Abbas Kiarostami ar Through the Olive Trees (1994). Daeth ei ymddangosiad cyntaf fel cyfarwyddwr ym 1995 gyda'r ffilm The White Balloon, a ysgrifennwyd gan Abbas Kiarostami. Gyda gwaith hwn enillodd y Caméra d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes.

Ym 1997, gyda The Mirror, enillodd y wobr Wyl Ffilm Locarno. Enillodd Circle (2000) y Golden Lion yn Fenis a Crimson Gold (2003) gwobrau Cannes a Chicago ond ni ryddhawyd y ddau yn Iran oherwydd sensoriaeth.

Roedd ei ffilm nesaf Offside (2006), yn gyfuniad o gomedi a rhaglen ddogfen gan ddilyn hanes criw o ferched sy'n gwisgo fel dynion i geisio wylio gêm peldreod rhyngwladol (mae merched wedi'u gwahadd o stadiwms pêl-droed Iran). Fel ei ffilmiau blaenorol enillodd rai o brif wobrau y byd ffilm rhyngwladol ond fe'i waharddwyd yn Iran.[3]

Arestiwyd ar 2 Mawrth 2010 am ei wrthwynebiad i gyfundrefn Iran. Yn dilyn apêl gan rhai o enwau mawrion Hollywood a mudiadau hawliau sifil rhyngwladol, cafodd Panahi ei ryddhau ar fechnïaeth ar 24 Mai y flwyddyn honno. Ar Ragfyr 20, 2010 ddedfrydwyd Panahi i chwe blynedd yn y carchar - mae'r carchariad bellach wedi'i ohirio. Mae hefyd yn cael ei atal rhag cyfarwyddo, ysgrifennu a chynhyrchu ffilmiau, teithio a gwneud cyfweliadau y tu mewn a'r tu allan i Iran am 20 mlynedd.[4]

Yng nghanol yr holl helynt am ei arestio llwyddodd i gymryd ran yn y ffilm This Is Not a Film (2011) sydd yn ei ddangos yn ei fflat yn ffonio ei gyfreithiwr, gwylio'r teledu a disgrifio ffilm hoffai ei gwneud. Yn 2011 llwyddodd Panahi smyglo'r ffeil This Is Not a Film ar go-bach USB allan o Iran wedi'i cuddio mewn cacen pen-blwydd. Unwaith eto enillodd y ffilm rhai o brif wobrau y byd ffilm rhyngwladol ond fe'i waharddwyd yn Iran.

Mae'r 14 Chwefror 2015 enillodd wobr y Golden Bear yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin gyda Taxi Tehran a ffilmiwyd yn gudd tu fewn i dacsi ar strydoedd Iran oherwydd y gwaharddiadau.[5][6] [7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.imdb.com/name/nm0070159/awards
  2. http://lenziran.com/2011/03/21/simin-behbahani-jafar-panahi-in-obama-greetings-for-iranian-new-year/
  3. http://www.notcoming.com/2006/leo.php
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-27. Cyrchwyd 2012-10-27.
  5. "15 Documentary Features Advance In 2012 Oscar® Race". Oscars.org. 2012-12-22. Cyrchwyd 2012-12-25.
  6. "Cannes Q. and A.: The Loneliness of the Banned Filmmaker". the New York Times. 21 Mai 2011. Cyrchwyd 25 Mehefin 2012.
  7. http://www.theguardian.com/film/2015/feb/15/berlin-film-festival-golden-bear-jafar-panahi