Gareth Glyn
Gareth Glyn | |
---|---|
Ganwyd | Gareth Glynne Davies 2 Gorffennaf 1951 Machynlleth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, darlledwr |
Arddull | contemporary classical music |
Tad | T. Glynne Davies |
Gwefan | http://garethglyn.info |
Cyfansoddwr a darlledwr Cymreig yw Gareth Glyn (ganwyd Gareth Glynne Davies; 2 Gorffennaf 1951). Ef yw mab hynaf y diweddar ddarlledwr a'r llenor T. Glynne Davies.
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]
Ganwyd Glyn yn Machynlleth a mynychodd Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug.[1] Graddiodd mewn Cerddoriaeth o Goleg Merton, Rhydychen, 1969 - 72, gan arbenigo mewn cyfansoddi, ac mae'n dal LRAM fel Cyfansoddwr o'r Academi Gerdd Frenhinol.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Dros ddeng mlynedd ar hugain, mae wedi cyfansoddi'n helaeth ar gyfer sawl gyfrwng, o'r symffoni fwyaf i ganeuon pop, o'r neuadd gyngerdd i'r sgrîn deledu.
Ymhlith yr enwogion roddodd berfformiadau cyntaf ei weithiau mae'r bariton byd-enwog Bryn Terfel, y gantores ifanc Charlotte Church, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, yr organydd Jane Watts a nifer o rai eraill - gan gynnwys Jonathan Pryce mewn darn i lefarydd a cherddorfa gerbron cynulleidfa fyw o filoedd o bobol a gwylwyr teledu drwy'r byd. Mae Rhys Ifans wedi actio'r brif ran ym mherfformiadau cynta dwy ddrama gerdd gan Gareth Glyn.
Cafodd Gareth Glyn ei ddewis i gyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau i deledu a ffilm, gan gynnwys y gyfres am hanes y genedl, Cymru 2000, y ffilm Madam Wen, a dramáu megis Tywyll Heno, seiledig ar y nofel gan Kate Roberts.
Mae llawer o'i waith diweddar wedi cael ei berfformio, ei recordio a'i gynhyrchu gan y cyfansoddwr ei hun yn ei stiwdio ar Ynys Môn; mae'n arbenigo ar ail-greu seiniau'r gerddorfa a'i hofferynnau gan ddefnyddio'r dulliau technolegol diweddaraf.
Ym mis Hydref 2012, cyhoeddwyd y byddai yn gadael y rhaglen newyddion Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru wedi 34 blynedd.[2]
Bywyd personol[golygu | golygu cod]
Mae Gareth Glyn yn byw ym Modffordd, ger Llangefni, gyda'i wraig Eleri Cwyfan. Mae ganddynt ddau fab, sef y darlithydd Peredur Glyn Webb-Davies a'r perfformiwr Seiriol Davies.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Castle yn cyd-ddathlu gydag ysgol hanesyddol. BBC Cymru.
- ↑ Gareth Glyn i roi'r gorau i gyflwyno'r Post Prynhawn. BBC (5 Hydref 2012). Adalwyd ar 8 Hydref 2012.