Thomas Glynne Davies
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth T. Glynne Davies)
Roedd Thomas Glynne Davies (12 Ionawr 1926 - 1988), a adnabyddir fel arfer fel T. Glynne Davies, yn fardd, llenor ac yn ddarlledydd radio a theledu a aned yn Llanrwst, Dyffryn Conwy.
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951 gyda'r gerdd 'Adfeilion' a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef Llwybrau Pridd a Hedydd yn yr Haul. Ysgrifennodd y nofel hirfaith Marged, sy'n portreadu bywyd yn Llanrwst dros sawl cenhedlaeth, nofel arall sef Haf Creulon a chyfrol o straeon byrion Cân Serch.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Llwybrau Pridd
- Hedydd yn yr Haul
- Marged (Gwasg Gomer, 1974)
- Haf Creulon
- Cân Serch