Jonathan Pryce
| Jonathan Pryce | |
|---|---|
![]() Jonathan Pryce |
|
| Ganwyd | 1 Mehefin, 1947 Treffynnon, Sir y Fflint, |
| Yn enwog am | Something Wicked this Way Comes, Evita, Tomorrow Never Dies, Pirates of the Caribbean: The Curse of the Black Pearl |
| Galwedigaeth | Actor, canwr |
Actor a chanwr Cymreig ydy Jonathan Pryce CBE (ganwyd 1 Mehefin 1947) o Dreffynnon, Sir y Fflint. Ar ôl iddo astudio yn RADA a phriodi'r actores Wyddelig Kate Fahy ym 1974, dechreuodd ei yrfa fel actor llwyfan yn ystod y 1970au. Arweiniodd ei waith yn y theatr iddo dderbyn mwy o rôlau cefnogol mewn ffilmiau ac ar y teledu. Daeth ei berfformiad sgrîn fawr mwyaf arwyddocaol yn ffilm gwlt Terry Gilliam Brazil (1985).
Mae Pryce wedi serennu mewn nifer o ffilmiau cyllid uchel, fel Evita, Tomorrow Never Dies, Pirates of the Caribbean a The New World, yn ogystal a phrosiectau annibynnol fel Glengarry Glen Ross a Carrington. Mae ei yrfa ym myd y theatr hefyd wedi bod yn llwyddiannus, gan ennill dwy Wobr Tony - y cyntaf ohonynt ym 1977 am ei berfformiad cyntaf ar Broadway yn "Comedians", a'r ail am ei ran fel "y Peiriannydd" yn y sioe gerdd Miss Saigon.
Theatr (anghyflawn) [golygu]
- Comedians (1975) fel Gethin Price
- Miss Saigon (1989) fel Y Peiriannydd
- Oliver! (adfywiad 1994) fel Fagin
- My Fair Lady (adfywiad 2001) fel Athro Higgins
Ffilmiau (anghyflawn) [golygu]
- Something Wicked this Way Comes (1983) fel Mr. Dark
- Brazil (1985) fel Sam Lowry
- Consuming Passions (1988) fel Mr Farris
- The Adventures of Baron Munchhausen (1988) fel Right Ordinary Horatio Jackson
- Barbarians at the Gate (1993) fel Henry Kravis
- Carrington (1995) fel Lytton Strachey
- Evita (1996) fel Juan Perón
- Regeneration (1997) fel Dr William Rivers
- Tomorrow Never Dies (1997) fel Elliot Carver
- Ronin (1998) fel Seamus
- Pirates of the Caribbean: The Curse of the Black Pearl (2003) fel Weatherby Swann
- The Brothers Grimm (2005) fel Vavarin Delatombe
- Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest (1997) fel Weatherby Swann
- Pirates of the Caribbean: At World's End (1998) fel Weatherby Swann
