Tomorrow Never Dies

Oddi ar Wicipedia
Tomorrow Never Dies

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Roger Spottiswoode
Cynhyrchydd Barbara Broccoli
Michael G. Wilson
Ysgrifennwr Bruce Feirstein
Addaswr Bruce Feirstein
Serennu Pierce Brosnan
Michelle Yeoh
Jonathan Pryce
Teri Hatcher
Cerddoriaeth David Arnold
Prif thema Tomorrow Never Dies
Cyfansoddwr y thema Sheryl Crow
Mitchell Froom
Perfformiwr y thema Sheryl Crow
Sinematograffeg Robert Elswit
Dylunio
Dosbarthydd MGM Distribution Co.
Dyddiad rhyddhau 19 Rhagfyr 1997
Amser rhedeg 119 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Cyllideb $110,000,000 (UDA)
Refeniw gros $333,000,000
Rhagflaenydd GoldenEye (1995)
Olynydd The World Is Not Enough (1999)
(Saesneg) Proffil IMDb

Tomorrow Never Dies (1997) yw'r deunawfed ffilm yn y gyfres James Bond a'r ail ffilm i serennu Pierce Brosnan fel yr asiant cudd MI6 ffuglennol, James Bond. Cydnabyddir Bruce Feirstein fel sgriptiwr y ffilm er i nifer o ysgrifenwyr eraill gyfrannu i'r broses. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Roger Spottiswoode. Adrodda'r ffilm hanes Bond wrth iddo geisio atal un o fawrion y cyfryngau rhag cynllwynio digwyddiadau byd-eang a dechrau Trydydd Rhyfel Byd.

Cynhyrchwyd y ffilm gan Michael G. Wilson a Barbara Broccoli a dyma oedd y ffilm James Bond gyntaf i gael ei chynhyrchu ar ôl marwolaeth y cynhyrchydd Albert R. Broccoli. Ar ddiwedd y ffilm, telir teyrnged iddo yn y credydau. Perfformiodd y ffilm yn dda yn y sinemau er gwaethaf ymatebion cymysg wrth y beirniaid. Er i'r ffilm wneud fwy o arian na'i ragflaenydd GoldenEye, dyma oedd yr unig ffilm Bond gyda Pierce Brosnan yn serennu ynddo i beidio a mynd yn syth i rif un y siart, am fod Titanic wedi cael ei rhyddhau'r un diwrnod.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ysbïo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.