Diamonds Are Forever (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Guy Hamilton |
| Cynhyrchydd | Harry Saltzman Albert R. Broccoli |
| Ysgrifennwr | Richard Maibaum Tom Mankiewicz (sgript) Ian Fleming (nofel) |
| Serennu | Sean Connery Charles Gray Jill St. John |
| Cerddoriaeth | John Barry |
| Sinematograffeg | Ted Moore |
| Golygydd | Bert Bates John Holmes |
| Cwmni Cynhyrchu | United Artists |
| Amser rhedeg | 115 munud |
| Gwlad | Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Y seithfed ffilm yng nghyfres James Bond yw Diamonds Are Forever (1971), a dyma'r chweched ffilm (a'r un olaf) i Sean Connery chwarae rhan yr asiant i MI6. Seiliwyd y ffilm ar nofel Ian Fleming o 1956 o'r un enw, a dyma'r ail o bedair ffilm James Bond i gael ei gyfarwyddo gan Guy Hamilton. Yn y stori, mae Bond yn esgus bod yn smyglwr diemyntau er mwyn casglu gwybodaeth am griw o smyglwyr. Yn fuan darganfydda Bond gynllwyn gan ei hen-elyn Blofeld i ddefnyddio'r diemyntau ac i adeiladu lloerenn laser enfawr a fyddai'n cael ei ddefnyddio er mwyn dal y byd yn wystl.
Roedd Diamonds Are Forever yn lwyddiant masnachol, ond cymysg fu ymateb y beirniaid i'r naws dychanol a doniol a geir yn y ffilm.
|
||||||||