Goldfinger (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Goldfinger

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Guy Hamilton
Cynhyrchydd Harry Saltzman
Albert R. Broccoli
Ysgrifennwr Ian Fleming
Addaswr Richard Maibaum
Paul Dehn
Serennu Sean Connery
Gert Fröbe
Honor Blackman
Harold Sakata
Cerddoriaeth John Barry
Prif thema Goldfinger
Cyfansoddwr y thema John Barry
Leslie Bricusse
Anthony Newley
Perfformiwr y thema Shirley Bassey
Sinematograffeg Ted Moore, BSC
Golygydd Peter R. Hunt
Dylunio
Dosbarthydd United Artists
Dyddiad rhyddhau 17 Medi 1964
Amser rhedeg 110 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Cyllideb $3,000,000 (UDA)
Refeniw gros $124,900,000
Rhagflaenydd From Russia With Love (1963)
Olynydd Thunderball (1965)
(Saesneg) Proffil IMDb

Y drydedd ffilm yng nghyfres James Bond yw Goldfinger (1964), a'r drydedd ffilm i serennu Sean Connery fel asiant cudd MI6 James Bond. Seiliwyd y ffilm ar nofel o'r un enw gan Ian Fleming. Mae Honor Blackman a Gert Fröbe hefyd yn actio yn y ffilm. Cynhyrchwyd y ffilm gan Albert R. Broccoli a Harry Saltzman, a dyma oedd y cyntaf o bedair ffilm i gael eu cyfarwyddo gan Guy Hamilton. Dilyna'r stori hanes Bond wrth iddo ddilyn smyglwr aur o'r enw Auric Goldfinger, sydd yn cynllwynio ffrwydrad niwclear yn storfa aur Fort Knox.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ysbïo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.