Pierce Brosnan
| Pierce Brosnan | |
|---|---|
Pierce Brosnan yng Ngŵyl Ffilm Cannes, 2002 |
|
| Geni | 16 Mai, 1953 Swydd Meath, Iwerddon |
| Enwau eraill | Pierce Brendan Brosnan |
| Enwog am | Die Another Day, The World Is Not Enough, Mamma Mia! The Movie, |
| Galwedigaeth | Actor, Cynhyrchydd |
Actor, cynhyrchydd ffilmiau ac amgylcheddwr Americanaidd-Gwyddelig yw Pierce Brendan Brosnan, OBE (ganwyd 16 Mai 1953). Mae ganddo ddinasyddiaeth Gwyddelig ac Americanaidd. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed er mwyn dechrau hyfforddi i fod yn ddarlunydd masnachol ond hyfforddodd yn y Ganolfan Ddrama yn Llundain am dair blynedd. Wedi cyfnod o actio ar lwyfan, daeth i amlygrwydd yn y gyfres deledu boblogaidd Remington Steele.
Chwaraeodd Brosnan ran yr asiant cudd James Bond yn GoldenEye, Tomorrow Never Dies, The World Is Not Enough a Die Another Day. Ef hefyd ddarparodd y llais a phryd a gwedd Bond yn y gêm fideo James Bond 007: Everything or Nothing. Ym 1996, sefydlodd gwmni cynhyrchu yn Los Angeles ar y cyd gyda Beau St.Clair, o'r enw Irish DreamTime. Roedd Brosnan yn briod â Cassandra Harris tan ei marwolaeth, ac mae ef bellach wedi ail-briodi Shaye Smith.
| Rhagflaenydd: Timothy Dalton |
Actor James Bond 1995 – 2002 |
Olynydd: Daniel Craig |